Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd Q562

3 Blynedd

Mae’r cynllun gradd hwn yn gyfle i fyfyrwyr astudio iaith a llenyddiaeth y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill ar wastad academaidd uchel. Adran y Gymraeg Aberystwyth yw un o’r prif ganolfannau prifysgol ym Mhrydain ar gyfer astudio’r ieithoedd Celtaidd. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr eu deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry a’r cenhedloedd eraill. Cewch gyfle i astudio Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban, ond does dim rhaid ichi fynd ar drywydd pob un o’r ieithoedd hyn.

Dros dair blynedd, byddwch yn meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y gallwch gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill. Gradd hyblyg yw hon felly. Bydd myfyrwyr y drydedd flwyddyn yn treulio eu semester cyntaf mewn prifysgol dramor o dan gynllun Erasmus y Gymuned Ewropeaidd.

Manylion Modiwlau