Astudio'n Rhan Amser/Astudiaethau Allanol

Astudio'n Rhan Amser

Mae’r Adran yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’n rhan amser ar gyfer cynllun gradd Anrhydedd Sengl Cymraeg. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau’r 360 o gredydau sy’n ofynnol ar gyfer gradd dros gyfnod o rhwng 4-6 blwyddyn fel arfer trwy ennill isafswm o 60 credyd a mwyafswm o 80 credyd y flwyddyn. Bydd myfyrwyr rhan amser yn mynychu yr un darlithoedd â myfyrwyr mewnol eraill ac yn cael manteisio ar ur un dewis o fodiwlau â hwy yn ogystal.

Y Radd Allanol
Er bod rhai myfyrwyr yn parhau i ddilyn y Radd ar hyn o bryd, nid yw’r Brifysgol yn derbyn myfyrwyr newydd i ymuno â’r cynllun fodd bynnag.

BA Cymraeg (Anrhydedd Sengl)
BA Cymraeg (Prif Bwnc) a Hanes Cymru (Is-bwnc)

Cynllun gradd ar gyfer y rheini sy'n dymuno astudio'n allanol fel myfyrwyr rhan amser yw’r Radd Allanol . Sefydlwyd y cynllun arloesol hwn yn 1980, gyda’r myfyriwr cyntaf yn graddio yn 1986. 

Astudiaethau Allanol

Ni fydd modiwlau Cymraeg ar gael i fyfyrwyr allanol yn ystod 2010-2011

Ar gael yn 2011-2012:

Dysgu Llydaweg (OC10640)
Amcan y modiwl yw dysgu siarad, darllen ac ysgrifennu ychydig o Lydaweg. Canolbwyntir ar ymarfer ar lafar a rhoddir sylw neilltuol i amser gorffennol ac amser presennol y ferf. Mae'r modiwl 40 credyd hwn yn seiliedig ar 16 gwers gyntaf Cwrs Llydaweg Sylfaenol Dr Rhisiart Hincks.

Disgwylir i'r sawl sy'n dilyn y cwrs gyflwyno ymarferion syml, sy'n seiliedig ar y gwaith dosbarth, yn rheolaidd. Dyfernir Tystysgrif y Brifysgol mewn Llydaweg i'r sawl sy'n cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus gan sicrhau marciau o 60% neu fwy.

Ceir 6 cyfarfod dysgu undydd yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, (i'w cynnal ar ddydd Sadwrn).