Gwyddeleg Iaith a Llên Anrhydedd Cyfun

Os ydych yn dymuno canolbwyntio ar Wyddeleg fel rhan o’ch cynllun astudio, gallwch ddewis astudio Gwyddeleg Iaith a Llên fel gradd anrhydedd cyfun. Mae’n gwrs pedair blynedd ac fel arfer byddwch yn treulio blwyddyn mewn prifysgol yn Iwerddon. Mae sawl pwnc ar gael o fewn y cynllun cyd-anrhydedd gyda Gwyddeleg Iaith a Llên.

Lefel 1

Bydd angen ichi astudio cyfanswm o hyd at 40 credyd o fodiwlau Gwyddeleg, ynghyd â 40 o gredydau Lefel 1 mewn pwnc/pynciau hollol wahanol o’ch dewis chi. Er mwyn cwblhau rhan 1, dylai’r 40 credyd sy’n weddill ddod o blith modiwlau y pwnc arall yr ydych yn gobeithio ennill gradd gyd-anrhydedd ynddo. Er enghraifft, Hanes, os mai gradd Gwyddeleg Iaith a Llên a Hanes yw eich dewis.

Mae’r cynllun cyd-anrhydedd Gwyddeleg yn debyg i’r cynllun Astudiaethau Celtaidd, heblaw bod yr hanner arall o’ch cwrs (Hanes, Addysg neu beth bynnag) yn cymryd lle Cymraeg.

Lefel 2

Er mwyn ennill Gradd Cyd-anrhydedd mewn Gwyddeleg Iaith a Llên a phwnc, arall disgwylir ichi gymryd yr holl fodiwlau Lefel 2 a 3 (ar wahân i Aeleg yr Alban).

Modiwlau Gwyddeleg Iaith a Llên