Gwyddeleg Iaith a Llên
Aberystwyth yw’r unig brifysgol yng Nghymru lle dysgir yr ieithoedd Celtaidd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae modd astudio Gwyddeleg yn Aberystwyth fel rhan o astudiaethau Lefel 1 yn y flwyddyn gyntaf, yn ogystal ag fel rhan o gyrsiau gradd anrhydedd sengl mewn Astudiaethau Celtaidd neu Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Mae myfyrwyr hefyd yn rhydd i ddewis rhai modiwlau Gwyddeleg o fewn gradd Anrhydedd Sengl Cymraeg.
Yn y modiwlau Gwyddeleg, cewch gyflwyniad i’r Diwylliant Celtaidd ac i Wyddeleg Modern a’i Llenyddiaeth yn eich blwyddyn gyntaf, ac yna ymlaen at Hen Wyddeleg, Gwyddeleg Modern, Ieitheg Geltaidd Gymharol a Gaeleg yr Alban yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Yn ogystal â darllen detholion o lenyddiaeth o bob cyfnod, byddwch hefyd yn dysgu sut i gyfieithu i’r Wyddeleg ac o’r Wyddeleg ac i ysgrifennu traethodau ynddi.
Os ydych am ganolbwyntio ar Wyddeleg fel rhan o gynllun gradd, yna mae modd astudio Gwyddeleg Iaith a Llên Anrhydedd Cyfun. Cwrs pedair blynedd ydyw ac mae’n cynnwys blwyddyn o astudio mewn prifysgol yn Iwerddon. Ceir dewis helaeth o bynciau sy’n cael eu cynnig fel cwrs gradd ar y cyd â Gwyddeleg.