Llydaweg
Mae’r cyswllt rhwng Llydaw ac Aberystwyth yn un hanesyddol. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd y bardd T. Gwynn Jones, a fu’n Athro yma yn ddiweddarach, yn gohebu yn Llydaweg â’r bardd Llydaweg Taldir, ac y mae bedd Arzel Even, y darlithydd cyntaf ym Mhrydain i’w benodi yn unswydd i ddysgu Llydaweg, i’w weld, ag arysgrif yn Llydaweg arno, ym mynwent y dref. Yma y bu Rita Williams yn gweithio, ac yma y dysgodd y prifardd Twm Morys Lydaweg a hefyd y llenor Robin Llywelyn. Aeth o leiaf un gyn-fyfyrwraig yn athrawes mewn ysgol sydd yn dysgu drwy gyfrwng y Llydaweg. Mae brwdfrydedd cyn-fyfyrwyr ac eraill dros yr iaith i’w weld yng ngweithgareddau Cymdeithas Cymru-Llydaw, mudiad sydd yn cynnal sesiynau siarad Llydaweg yn nhref Aberystwyth ac ysgolion undydd a phenwythnos mewn gwahanol rannau o Gymru.
Gyda’r Gernyweg, y Llydaweg yw’r iaith Geltaidd debycaf i’r Gymraeg ac yr ydym yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ddysgu siarad, ysgrifennu a darllen Llydaweg. Mae’r ddau fodiwl a gynigir yn Lefel 1 yn cyflwyno’r iaith ac yn pwysleisio sgiliau llafar heb anghofio am ddarllen ac ysgrifennu hefyd. Gwneir defnydd helaeth o gyflwyniadau Powerpoint niferus a baratowyd yn arbennig i fyfyrwyr Aberystwyth.
Mae modd mynd ymlaen i astudio modiwlau Llydaweg fel rhan o gwrs gradd Anrhydedd Sengl Cymraeg, Anrhydedd Sengl Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd, Anrhydedd Cyfun Cymraeg neu Astudiaethau Celtaidd. Gall myfyrwyr sy’n astudio Llydaweg yn Lefel 2 ddilyn rhan o’u cwrs yn un o brifysgolion Llydaw.
Gweler yma am fanylion modiwlau Llydaweg.
Prifysgol Aberystwyth a Llydaw
Mae gan Adran y Gymraeg gyswllt agos iawn ag Adran y Llydaweg a’r Ieithoedd Celtaidd, Prifysgol Roazhon (Rennes), a bydd myfyrwyr hefyd yn dod yma o’r brifysgol honno, ac o Brifysgol Brest, i ddysgu Cymraeg a Gwyddeleg ac i ddilyn modiwlau pellach yn y Llydaweg.
Yn ôl Liza Jacq, myfyrwraig o Lydaw a dreuliodd semester yma o dan Gynllun Erasmus: ‘Yma yn Aberystwyth mae’r Brifysgol i’w gweld wedi ei gwneud i’r myfyrwyr. Mae pob dim yn cael ei ddarparu iddyn nhw ac maen nhw’n byw yn y brifysgol. Dim ond galw heibio a wnawn ni ym mhrifysgolion Ffrainc.’ Yn sicr, gellir dweud bod Llydawiaid ieithgar yn ystyried lle’r Llydaweg yn Aberystwyth yn bwysig i broffil eu hiaith.
Anogir myfyrwyr sy’n dysgu Llydaweg i fynychu cwrs haf preswyl i ddysgwyr yn Llydaw, os oes modd yn y byd, ac fel arfer rhoddir rhywfaint o gymorth ariannol i’w helpu i wneud hynny. Mae cwrs KEAV (Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegerien) yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl drwy’r Llydaweg, ac am fod y Llydaweg yn gymharol hawdd ei dysgu i siaradwyr Cymraeg, gall myfyrwyr ei meistroli yn ddigon da i fynychu’r cwrs ar ôl blwyddyn.