Cyrsiau Uwchraddedig ac Ymchwil
Mae’r Adran yn ganolfan ymchwil ers ei chychwyn cyntaf, a chynhelir y traddodiad hwn yn egnïol heddiw, fel y dengys ei bri rhyngwladol. Ar sail ymchwil a diddordebau ei staff, dyfarnwyd gradd 5*A i’r Adran yn Asesiad Ymchwil prifysgolion Prydain yn 2001. Yn Asesiad Ymchwil 2008, barnwyd bod 65% o waith y staff o’r safon ryngwladol uchaf (yn arwain y byd) neu o safon ryngwladol gydnabyddedig. O blith adrannau dysgu, hon a ragorodd yng Nghymru; trwy wledydd Prydain, Prifysgol Caer-grawnt a Phrifysgol Wlster yn unig a osodwyd yn uwch na hi. Erbyn hyn ceir yn yr Adran fwy o uwchraddedigion nag mewn unrhyw adran gyffelyb ym Mhrydain.
Caiff myfyrwyr ymchwil Aberystwyth fanteisio ar gyfleusterau ac adnoddau o’r radd flaenaf. Ar wahân i gasgliadau Cymraeg a Cheltaidd helaeth Llyfrgell Hugh Owen yn y Brifysgol ei hun, gall ein myfyrwyr elwa hefyd ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru, lle y ceir casgliadau digymar o lawysgrifau, o lyfrau prinitedig, o gyfnodolion Cymraeg, o ddeunydd ffilm, ac o archifau llenyddol eraill.
Mae’r Adran yn cynnig tair gradd MA a gaiff eu dysgu, a graddau ymchwil, sef naill ai MPhil (blwyddyn) neu PhD (tair blynedd). Mae hefyd ar gael Dystysgrif mewn Cyfieithu. Fel arfer, bydd gan y sawl sy’n ceisio am le i ddilyn y cyrsiau hyn radd dda (dosbarth I neu IIi) yn y Gymraeg neu yn yr Wyddeleg neu mewn Astudiaethau Celtaidd. Cynigir ychydig o fwrsarïau bob blwyddyn, gan gynnwys dwy ‘Ysgoloriaeth y Gyngres Geltaidd’ (sy’n werth £500 yr un) ac a glustnodir ar gyfer myfyrwyr tramor.