Graddau Ymchwil (MPhil a PhD)

MPhil (blwyddyn) a PhD (tair blynedd)

Ar gyfer y graddau hyn mae gofyn llunio traethawd ymchwil. Traethawd hyd at 30,000 o eiriau yw’r MPhil, fel arfer, tra bo’r PhD yn waith mwy sylweddol ac yn ymestyn hyd at 100,000 gair, gan amlaf. A bwrw bod yr Adran yn barnu ei fod yn addas, gellir dewis unrhyw bwnc ym meysydd iaith a llenyddiaeth y Gymraeg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu myfyrwyr yn gweithio ar lawer o wahanol bynciau, e.e. cynllunio ieithyddol, iaith y teledu, gwrywdod yn y llenyddiaeth gynnar, gwisgoedd ac ategolion yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, canu cynnar Guto’r Glyn, rhyddiaith grefyddol, Salmau Cân Edmwnd Prys, llên gwerin Gwylliaid Cochion Mawddwy, barddoniaeth Lewis Morris, barddoniaeth Menna Elfyn, nofelau Islwyn Ffowc Elis, ac agweddau ar nofelau Marion Eames, Sonia Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Mae gan yr Adran arbenigwyr yn y rhan fwyaf o feysydd yn ymwneud â’r Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd. Yn eu plith ceir awduron o fri sydd yn barod i gyfarwyddo prosiectau PhD â'u ffocws ar greu gwaith llenyddol estynedig (practice-led PhD). Mae pob myfyriwr ymchwil dan ofal dau gyfarwyddwr sy'n arbenigo yn y maes. Darperir rhaglen lawn o hyfforddiant ymchwil sydd hefyd yn meithrin sgiliau allweddol, megis ysgrifennu yn eglur a chyfathrebu yn effeithiol â gwahanol fathau o gynulleidfa. Pan ellir, rhoddir cyfle i’r myfyrwyr ymchwil ddysgu seminarau yn yr Adran.

MPhil neu PhD Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban

Cyrsiau ymchwil blwyddyn (MPhil) neu dair blynedd (PhD) yw’r rhain, a’n rhagofynion yw gradd dda mewn Gwyddeleg neu mewn Astudiaethau Celtaidd. Croesewir ymchwilwyr i weithio ym meysydd astudiaethau Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban, gan gynnwys iaith, llenyddiaeth ac astudiaethau diwylliannol. Mae gan yr Adran gryfderau hefyd ym maes y Celtiaid ar gyfandir Ewrop ac yn Asia Leiaf, ac yn enwedig yn nosbarthiad enwau lleoedd ac enwau personol. Cryfder arbennig arall yw hanes gwasgaru pobl o'r gwledydd Celtaidd yn y 19g, a hanes iaith a diwylliant siaradwyr Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban yng Ngogledd America. Ymhlith y traethodau doethuriaeth y buwyd yn gweithio arnynt yn ddiweddar y mae rhai ar enwau lleoedd Gâl ac Iberia ac ar dafodiaith Ynys Diùra (Jura).

Gwneud cais ar-lein (MPhil)

Gwneud cais ar-lein (PhD)