Tystysgrif Mewn Cyfieithu
Cwrs blwyddyn rhan-amser yw hwn, ac fe’i dysgir ar y cyd gan Adrannau Cymraeg Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Y mae’r dystysgrif yn gymhwyster proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr, ac fe’i bwriedir i raddedigion yn y Gymraeg neu i rai sydd â chymwysterau sy’n gyfwerth â gradd anrhydedd. Y mae gofyn i fyfyrwyr fynychu pedair sesiwn yn Aberystwyth a phedair ym Mangor, cyflawni ymarferion wythnosol, llunio prosiect a sefyll arholiad ysgrifenedig.
Am fanylion pellach, cysyllter yn y lle cyntaf â Dr Robin Chapman.