Medal Aur i Adran y Gymraeg

15 October 2012

null

Mae’r Adran wedi ennill y sgôr uchaf o blith holl adrannau’r Brifysgol yn ôl canlyniadau Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2012 sydd newydd eu cyhoeddi. Deth yr Adran i’r brig hefyd o’i chymharu â’r adrannau Cymraeg mewn prifysgolion eraill. Mae’r Arolwg yn mesur meysydd megis ansawdd y dysgu a’r adborth, cefnogaeth academaidd, adnoddau dysgu a datblygiad personol. 

Mae’r canlyniad rhagorol hwn yn dilyn canlyniadau tebyg a dderbyniodd Adran y Gymraeg yn yr Arolwg Boddhad yn y gorffennol, sy’n profi bod yr Adran yn parhau i gynnig profiad dysgu o’r safon uchaf i’w myfyrwyr.



Nôl i'r brig