Myfyrwyr yr Adran yn Cyd-drefnu Gŵyl Lyfrau
06 December 2012
Mae myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl ‘Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol’ yn yr Adran Gymraeg wedi trefnu gweithgareddau Cymraeg Gŵyl Lyfrau’r Brifysgol, a hynny fel prosiect arbennig y tymor hwn. Maent wedi ymateb i’r her yn frwdfrydig tu hwnt drwy lunio rhaglen atyniadol o sgyrsiau a pherfformiadau. Bydd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, Robat Gruffudd, yn trafod ei nofel Afallon, a bydd Gwennan Evans, a gyhoeddodd ei nofel gyntaf yn ddiweddar, Bore Da, hefyd yn trafod ei phrofiad wrth ysgrifennu’n greadigol. Bydd y bardd Cyril Jones yn trafod ei gasgliad newydd o gerddi, Eco’r Gweld, a bydd Eurig Salisbury, cyn-fyfyriwr o’r Adran Gymraeg, yn trafod ei waith fel Bardd Plant Cymru ac yn darllen ambell gerdd newydd o’i eiddo.
Bydd cyfle hefyd i egin feirdd a llenorion ymhlith myfyrwyr y Brifysgol gyflwyno’u gwaith mewn sesiwn ddarlleniadau gyhoeddus, a bydd cyfle i wrando ar eitemau cerddorol gan y gantores ifanc, Catrin Herbert, sy’n prysur wneud enw iddi’i hun, ac sy’n un o’r myfyrwyr a drefnodd y rhaglen.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi noddi gwobr cystadleuaeth llên meicro a stori drydar Gymraeg yr Ŵyl. Noddwyr eraill y gweithgareddau Cymraeg yw Siop Inc, Tafarn yr Hen Lew Du, a Siop y Pethe.
Cynhelir yr Ŵyl yn Llyfrgell Hugh Owen ddydd Llun, 10 Rhagfyr, rhwng 4.00 ac 8.00 o’r gloch yr hwyr. Mae croeso cynnes i bawb.
Cynnwys y rhaglen
4.00 Croeso, gwin a lluniaeth ysgafn
Cerys Davey ac Elain Hughes
4.10 Sgwrs yng nghwmni Gwennan Evans, awdures Bore Da (Y Lolfa)
Cadeirydd: Catrin Herbert
4.40 Sgwrs yng nghwmni Cyril Jones, awdur Eco’r Gweld (Cyhoeddiadau Barddas)
Cadeirydd: Eiri Angharad Siôn
5.10 Darlleniadau o waith creadigol gan fyfyrwyr
Cadeirydd: Heledd Llwyd
5.30 Perfformiad gan y gantores Catrin Herbert
6.00 Cyhoeddi enwau enillwyr y cystadlaethau ysgrifennu llên meicro a stori drydar
6.20 Sgwrs yng nghwmni Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru ac awdur Llyfr Glas Eurig (Cyhoeddiadau Barddas)
Cadeirydd: Miriam Glyn
6.50 Sgwrs yng nghwmni Robat Gruffudd, awdur Afallon (Y Lolfa) nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2012
Cadeiryddion: Hanna Medi Merrigan a Rhys Hughes
Trefnir yr Ŵyl ar y cyd rhwng CyMAL, Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Gyhoeddus Ceredigion ac Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Am fanylion pellach am y gystadleuaeth a’r Ŵyl, gweler
http://www.aber.ac.uk/cy/is/news/2012/book-festival/
Nôl i'r brig