Llwyddiant yr Ŵyl Lyfrau
14 December 2012
Mae myfyrwyr y modiwl ‘Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol’ yn falch iawn o lwyddiant eu cyfraniad i Ŵyl Lyfrau’r Brifysgol eleni. Bu’r ymateb i’r gweithgareddau Cymraeg yn frwdfrydig iawn a derbyniodd y myfyrwyr ganmoliaeth am drefnu rhaglen mor amrywiol a bywiog. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am lunio’r rhaglen, y myfyrwyr hefyd oedd yn cadeirio’r gwahanol sesiynau ac yn holi’r llenorion canlynol: Gwennan Evans, Cyril Jones, Eurig Salisbury a Robat Gruffudd. Cafodd egin feirdd a llenorion yr Adran gyfle i ddarllen eu gwaith yn gyhoeddus, a chafodd Jacob Ellis, Endaf Griffiths a Robin Williams wrandawiad gwerthfawrogol. Hefyd, bu Catrin Herbert yn diddanu trwy ganu rhai o’r caneuon a geir ar ei CD ‘Rhwng y Gwir a’r Gau a Phopeth Rhwng y Ddau’, ac ambell gân newydd o’i heiddo.
Dymuna’r myfyrwyr ddiolch i Elgan Philip Davies, Llyfrgellydd Cymreig y Brifysgol, am ei gymorth a’i gyfarwyddyd wrth baratoi ar gyfer yr Ŵyl. Dywedodd Dr Bleddyn O. Huws, cydlynydd y modiwl:
‘Rhaid imi guro cefn y myfyrwyr am eu gwaith yn trefnu rhaglen Gymraeg yr Ŵyl Lyfrau. Dyna braf yw gallu rhoi tasg ddigon heriol ac uchelgeisiol i fyfyrwyr israddedig a’u gweld yn ymateb mor frwdfrydig a chreadigol iddi. Maent wedi dysgu sgiliau gwerthfawr fel tîm, ac mae pawb ohonynt wedi elwa ar eu profiad. Rwy’n falch iawn ohonynt.’
Nôl i'r brig