Yr Athro Patrick Sims-Williams yn ennill Gwobr Vernam Hull
28 June 2012

Dyfarnodd Prifysgol Cymru Wobr Vernam Hull eleni i Patrick Sims-Williams, FBA, Athro Astudiaethau Celtaidd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, am ei lyfr Irish Influence on Medieval Welsh Literature (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2011). Enwir y wobr ar ôl Vernam Hull, Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard a fu farw yn 1976. Yn ôl Yr Athro Dafydd Johnston, ‘mae’r gyfrol gyfoethog hon yn waith ysgolheigaidd o’r radd flaenaf sy’n hawlio sylw manwl gan bawb sy’n ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru’r Oesoedd Canol, ac mae’n siwr o ysgogi ymchwil bellach ar sawl pwnc am flynyddoedd i ddod’. Dywedodd yr Athro Sims-Williams, ‘Dwi’n falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth hon ar ddiwedd cyfnod hapus fel Pennaeth yr Adran ragorol hon’.
Nôl i'r brig