Pennaeth Newydd Adran y Gymraeg
29 June 2012

Mae’r Athro Aled Gruffydd Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn Prifysgol Aberystwyth wedi’i benodi yn Bennaeth Adran y Gymraeg.
Cadarnhawyd penodiad yr Athro Gruffydd Aled Jones fel Pennaeth Adran y Gymraeg gan Gyngor y Brifysgol ar ddydd Mawrth 26ain o Fehefin. Fel Driprwy Is-Ganghellor Hŷn yn y Brifysgol, mae’r Athro yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad darpariaeth Gymraeg ar draws y Brifysgol ac y mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natblygiad darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg,” meddai. “Bûm yn ymwneud â sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwyf yn awyddus i weld Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o gryfhau’r Gymraeg led-led y Brifysgol, ac adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn arbennig ymhlith ôl-raddedigion.”
Yr Athro Aled Gruffydd Jones yw Cadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a nododd ei fod yn awyddus i sicrhau bod ymchwil o fewn Adran y Gymraeg yn parhau’n flaenoriaeth wrth i’r Brifysgol gwblhau paratoadau ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a thu hwnt.
Mae Adran y Gymraeg yn adnabyddus ar draws y byd am ansawdd uchel ei hymchwil. Dyfarnwyd iddi y radd uchaf un (5 *A) yn Asesiad Ymchwil 2001 a’r safle ail orau (ar ôl Caer-grawnt) ym Mhrydain yn Asesiad Ymchwil 2008.
Pennaeth Newydd i Adran y Gymraeg
Nôl i'r brig