Cyn-fyfyriwr yn ennill gwobr lenyddol

02 July 2012

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths 2011 i un o gyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Dr Geraint Phillips, am ei gyfrol  Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol.

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths 2011 i’r Dr Geraint Phillips, gan Briyfysgol Cymru am gynhyrchu’r gwaith gorau yn Gymraeg ar lenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymreig  yn ystod y tair blynedd blaenorol.

Cwblhawyd yr astudiaeth gan Geraint pan oedd yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg, a hynny dan gyfarwyddyd Dr Huw Meirion Edwards. Cyhoeddwyd Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol yn 2010 a’r gyfrol hon yw’r astudiaeth lawn gyntaf o fywyd y Cymro diwylliedig o ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Fe’i canmolwyd yn arbennig am ei bortread o’r berthynas rhwng Owain Myfyr ac Iolo Morgannwg.

Ymunodd Geraint â staff y Llyfrgell Genedlaethol yn 1989, lle mae’n Llyfrgellydd Llawysgrifau.

 

 



Nôl i'r brig