Cyhoeddi Canllaw Astudio

04 October 2012

null

Newydd ei gyhoeddi y mae llyfryn nodiadau ar nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Safon Uwch Cymraeg. Lluniwyd y nodiadau gan Dr Bleddyn Owen Huws, ac maent yn ganllaw diogel i fyfyrwyr wrth astudio ac adolygu ar gyfer arholiad. Mae nofel nodedig Caradog Prichard wedi bod ar y maes llafur ers chwarter canrif o leiaf, ac mae cenedlaethau o ddarllenwyr wedi cael eu swyno ganddi. Cafodd ei chyfieithu hefyd i nifer o ieithoedd eraill. Bydd pob darpar fyfyriwr a fydd yn ymweld â’r Adran Gymraeg yn ystod Dyddiau Agored y Brifysgol eleni yn derbyn copi rhad ac am ddim o’r llyfryn. Noddwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cyhoeddwyd gan Ganolfan Astudiaethau Addysg Prifysgol Aberystwyth.



Nôl i'r brig

Cysylltiadau

Bleddyn Owen Huws