Newyddion Diweddaraf Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Cystadleuaeth Ysgrifennu Creadigol - Amodau

 Limrig

Ysgrifennwch limrig sy’n dechrau â’r llinell:
‘Mae’r Steddfod yn Aber eleni’

Gwobr: Tocyn Llyfr £30

 Darn creadigol

Ysgrifennwch ddarn creadigol addas ar gyfer agoriad swyddogol Neuadd Pantycelyn yn 2020
Gwobr: Tocyn Llyfr £30

 Cynigion i’w hanfon at cymraeg@aber.ac.uk erbyn: Hanner Nos 11 Rhagfyr 2019

  • Rhaid i’r limrigau/darnau creadigol fod ar gael i’w cyhoeddi a heb fod eisoes wedi eu cyhoeddi.
  • Dylid cyflwyno pob ymgais o dan ffugenw. Dylai pob ymgeisydd gynnwys ffugenw ar ddogfen yr ymgais ac anfon ei enw llawn a chofnod o’r ffugenw a ddefnyddiodd mewn neges ebost at y cyfeiriad uchod.
  • Mae dyfarniad y beirniaid yn derfynol.