Bleddyn Owen Huws

Uwch Ddarlithydd
BA, PhD (Cymru) Photograph of Bleddyn Owen Huws.

Cyswllt

Ebost: boh@aber.ac.uk
Rhif Ffon: +44 (0)1970 622116

Bywgraffiad

Barddoniaeth yr Oesoedd Canol diweddar; rhai o genres y Cywyddwyr; llenyddiaeth cyfnod y Dadeni; llenyddiaeth werinol yr ugeinfed ganrif; llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.

Dr Huws yw cyd-olygydd Dwned, cylchgrawn hanes a llên Cymru'r Oesoedd Canol.

Cyhoeddiadau

‘Carneddog (1861-1947): un o enwogion Eryri’, recordiad o ddarlith ar CD Utgorn Cymru, rhif 69 (Mehefin 2012) a rhif 70 (Gorffennaf 2012), Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

‘Nodiadau ar Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard’, gwefan Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru,  (GCDC) (Mehefin 2012).

Guto’r Glyn: Un o Feirdd y ffin’, Dwned 17 (2011), tt.55-71.

Diflanedig Fyd:Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 (Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe, 2010), tt. xxxix, 199.

Cymraeg Safon Uwch - Help llaw gydag astudio  Martha, Jac a Sianco: Nodiadau ar gyfer astudio nofel Caryl Lewis (2009), 46tt.

'Dafydd Cyffin (m.1462); Un o Noddwyr Guto'r Glyn', Llên Cymru 31 (2008),
 tt.90-103.

'Drwg fydd tra awydd: Cywydd 'Trafferth Mewn Tafarn' Dafydd ap Gwilym a'r bregeth Ganoloesol', Dwned, 14 (2008), tt.89-106.

Adolygiad ar Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr; Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 (Caerdydd 2005) yn Studia Celtica 42 (2008), 182-4.

'Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch', Dwned, 13 (2007) tt.97-137.

'Meibion Iolo Goch', Llên Cymru, 30 (2007), tt.44-56.

...henffurf y mynyddoedd hyn’: Eryri yn ein Llenyddiaeth’, Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau, 2005, 28 tt.

'Y Gorffennol sy'n Bresennol: Cipolwg ar un o Gerddi Myrddin ap Dafydd', Barddas, 281 (Chwefror/Mawrth, 2005), tt.6-9.

''Dros fy mhlu ar draws fy mhlwyf': Golwg Newydd ar 'blu' Dafydd ap Gwilym', Dwned, 10 (2004), tt.33-53.

'Rhan o awdl foliant ddienw i Syr Dafydd Hanmer', Dwned, 9 (2003), tt.43-64.