Swyddi ar ôl Graddio

Gradd yn y Gymraeg yn agor drysau...

Mae gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth helaeth o swyddi yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Eleni, cafwyd bod llai o raddedigion Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddeleg Aberystwyth yn ddi-waith  na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer graddedigion iaith. Parhau hefyd mae llwyddiant graddedigion yr Adran i sicrhau cyflogaeth ar lefel ‘graddedig’ gan berfformio’n well na’r cyfartaledd cenedlaethol  ar gyfer graddedigion iaith.   

Yn 2007, cyflwynwyd modiwl Rhan 2 newydd, ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’, er mwyn paratoi myfyrwyr yn drylwyr ar gyfer byd gwaith. Mae’n fodiwl poblogaidd ymysg y myfyrwyr, ac wedi arwain at gyfleoedd gwaith. Yn ogystal â hyn, mae'r Adran yn gweithredu cynllun arbennig dros dair blynedd ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Coleg sy'n golygu fod cyfarwyddyd yn cael ei roi ar bethau ymarferol fel llunio curriculum vitae a sut i ymddwyn mewn cyfweliad. Bydd siaradwyr o'r tu allan i'r Coleg yn dod atom i sôn am y cyfleoedd sydd i Gymry Cymraeg yn y farchnad waith. Anogir myfrwyr i fanteisio'n llawn ar brofiadau a chyfleoedd yn ystod eu cyfnod yn y Coleg fel y byddant o gymorth iddynt wrth gynnig am swyddi.

Llwydda ein graddedigion i gael swyddi proffesiynol da, ac ymhlith y cwmnïau a’r sefydliadau a gyflogodd ein graddeddigion yn ddiweddar mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru, BBC Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Powys, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Gwynedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Tinopolis, ac Urdd Gobaith Cymru. Ein gwaith ni yw paratoi ein myfyrwyr ar gyfer gwasanaethu Cymru, ac mae galw mawr am raddedigion sy’n gallu trin a thrafod y Gymraeg yn hyderus mewn amrywiaeth helaeth o swyddi yn y Gymru gyfoes.

Cyflogadwyedd

Ffair Yrfaoedd Sgiliau Dwyieithog

Sesiynau Gyrfaol 2011-2012

Gair gan ein graddedigion