Gair gan ein Graddedigion

Lowri Johnston, BA Cymraeg (Golygydd Cynnwys Gwefan)

"Roedd y cwrs Cymraeg wedi fy mharatoi i allu ysgrifennu Cymraeg graenus a’i addasu ar gyfer gwahanol gyfryngau. Roedd y cyfle a gefais i dreulio blwyddyn mewn gwaith yn werthfawr iawn hefyd.”

Peter Hill, BA Cymraeg (Swyddog Gweinyddol)

“Roedd yr wythnos o brofiad gwaith fel rhan o fodiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ o gymorth mawr i mi. Roedd yn agoriad llygad o safbwynt y byd gwaith ac roedd wedi rhoi rhagflas i mi o weithio mewn swyddfa brysur.”

Catrin Rees, BA Cymraeg (Cynorthwy-ydd Cynhyrchu Teledu)

“Dewisais y cwrs penodol hwn yn Aberystwyth gan fod gen i ddiddordeb mewn ysgrifennu creadigol a’i fod yn rhoi cyfle imi ddatblygu’r sgil yma.”

Eirian Williams BA Cymraeg a Mathemateg (Gweinyddwraig Codi Arian)

“Oherwydd fy mod yn gorfod defnyddio’r Gymraeg yn fy swydd mae’r gramadeg a ddysgais yn ystod fy nghwrs yn Aberystwyth wedi bod yn amhrisiadwy.”