Gohebydd

Enw:

       
Megan Elenid Lewis

Cartref:

Llanfihangel-y-Creuddyn

Teitl Swydd:

 Gohebydd Cyffredinol Golwg a Golwg360

Sefydliad:

 Cwmni Golwg 

Disgrifiad:

Doeddwn i ddim wedi meddwl y byddwn i'n ymhél â byd newyddiaduraeth ar ôl graddio, ond mae’r gwaith yn fy siwtio i’r dim a’r cyfleoedd yn ddibendraw.
Mae ysgrifennu creadigol wedi mynd â fy mryd erioed, yn farddoniaeth ac yn straeon byrion am fy mod i’n mwynhau cyfoeth hudolus y Gymraeg. Am hynny, penderfynais ddilyn cwrs meistr mewn ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg Aberystwyth, gan ddatblygu fwy fyth ar fy ngallu i drin geiriau a datblygu syniadau. Gellir dadlau felly, nad yw newyddiaduraeth yn cyd-fynd yn llwyr â’m profiad creadigol ac, yn wir, mae gofyn bob amser i gynnal cysondeb ffeithiol gan ysgrifennu mewn arddull syml, moel a chryno. 
Er hyn, rwyf wrth fy modd â’r gwaith, a fedra i ddim meddwl am swydd a fyddai’n fy siwtio’n well erbyn hyn. Fel rhan o’r gwaith, rwy’n arfer fy Nghymraeg o ddydd i ddydd, yn ysgrifennu pytiau newyddion i’r wefan ac yn datblygu erthyglau ehangach, mwy creadigol, ar gyfer y cylchgrawn bob wythnos. Mae elfen arall o’r gwaith yn cynnwys ymchwilio a pharatoi erthyglau mewn cywair symlach ar gyfer y cylchgrawn Lingo Newydd, i ddysgwyr Cymraeg. 
Ers dechrau gyda Golwg, rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint yn barod am bob math o bynciau dan haul, wrth inni ymchwilio i feysydd newyddion o Gymru, Prydain a’r byd.
Mae’r gwaith yn gyffrous ac yn brysur, oherwydd nid yw newyddion byth yn peidio, ac nid yw’r pynciau byth yn ddiflas.
Rwy’n cofio gweld hysbyseb y swydd yn adran swyddi cylchgrawn Golwg, a doedd dim amdani imi ond rhoi cynnig arni. I ffwrdd â mi felly i ddiweddaru fy CV a pharatoi llythyr cais yn nerfau ac yn gyffro i gyd. Roeddwn i wrth fy modd pan gefais gynnig y cyfweliad, er bod fy stumog yn troi wrth feddwl amdano. Wedi’r cyfweliad, feddyliais i ddim mwy amdano, tan imi gael galwad un noson yn cynnig swydd fel Gohebydd Cyffredinol imi. Fedrwn i ddim stopio gwenu, a hynny ar ôl pinsio fy hun sawl gwaith. 

Diwrnod arferol:

A dweud y gwir, does dim diwrnod ‘arferol’ yn Golwg.
Mae pob diwrnod yn hollol wahanol, gydag amrywiaeth ymhob awr o bob dydd. Gan fod fy swydd wedi'i rhannu rhwng Golwg a Golwg360, rwy'n gweithio deuddydd yr wythnos ar shifftiau 7-3 neu 10 - 6. Rydym ni’n anelu at gyhoeddi gymaint o straeon newydd ag sy’n bosibl, a dyna pam ein bod yn dechrau’n gynnar, neu’n gorffen yn hwyr. Mae'r diwrnodau'n hedfan heibio, ac fe fydda i’n ymchwilio, llunio a pharatoi tua deg stori newyddion y dydd, boed ar lefel lleol, cenedlaethol neu ryngwladol, ac mae'n bwysig i fynd ar ôl dwy ochr y geiniog.
O ganol yr wythnos ymlaen, fe fydda i’n gweithio ar gylchgronau Golwg, gan neilltuo f’amser i gylchgrawn Lingo Newydd hefyd. Rwy’n gyfrifol am galendr wythnosol digwyddiadau Golwg, ac yn cyfrannu erthyglau newyddion neu ddarnau am y celfyddydau i’r cylchgrawn bob wythnos.
Rwy’n hoff o’r elfen honno, am fod pwyslais y cylchgrawn ar gyfoesedd, ac mae’n gyfle i minnau feddwl am straeon gwreiddiol, cyfweld â phobl ddiddorol a chreu darlun i’r darllenydd.

Fy hoff beth!: 

Dydd Mercher yw’r diwrnod mwyaf cyffrous i mi, am mai dyma’r diwrnod y bydd rhifyn diweddaraf Golwg yn cyrraedd y swyddfa. Nid oes dim yn well gen i na byseddu tudalennau sgleiniog y cylchgrawn, gan weld erthygl y treuliais gryn amser arni – mewn print, â lluniau trawiadol yn cyd-fynd â hi. Dyma weld y darn yn orffenedig, fel llun mewn ffrâm, ac mae’n hwb mawr i’m gyrru ymlaen at erthyglau’r wythnos nesaf.

Cymwysterau: 

BA Cymraeg Proffesiynol, ac MA Ysgrifennu Creadigol

Sgiliau Allweddol:

Cyfathrebu yw un o’r sgiliau mwyaf angenrheidiol ar gyfer y swydd hon mi dybiwn i. Mae’r swydd yn gofyn am y gallu i siarad â phobl o bob math o wahanol gefndiroedd – gan fod yn gwrtais ac yn graff wrth ofyn y cwestiynau anodd.
Fel gohebydd, mae disgwyl imi fod yn llygaid ac yn glustiau i Golwg ble bynnag y byddaf, gan gyfrannu syniadau a straeon newydd.
Mae hefyd angen digon o sgiliau technegol, gan fod yn ymwybodol o hawlfreintiau a chyfreithiau cyhoeddi.
Ond, yn bennaf oll, mae angen y gallu i ysgrifennu’n gywir, yn gyffrous ac yn grefftus – a hynny’n gyflym!