Ymchwil Adrannol

Ymchwil sy'n gyrru Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd  ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên  Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill: Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw a Llydaw. Mae ein hymchwil ar agweddau o Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhychwantu’r canrifoedd, ac yn cwmpasu’r meysydd arbenigol canlynol:

  • ysgolheictod testunol a sgiliau golygyddol; diwylliant llawysgrifol a llenyddol;
  • cyfieithu ac addasu llenyddol (damcaniaeth ac ymarfer, yn cynnwys y Canol Oesoedd);
  • ieithyddiaeth ac ieitheg;
  • damcaniaeth feirniadol, yn arbennig ffeministiaeth ac astudiaethau rhywedd, eco-feirniadaeth, damcaniaeth ymateb y darllenydd;
  • hanes a beirniadaeth lenyddol;
  • ysgrifennu creadigol;
  • bywgraffiad ac ysgrifennu am fywyd;
  • ysgrifennu a diwylliant llenyddol merched;
  • llenyddiaeth y tirwedd a’r amgylchedd;
  • hunaniaeth ranbarthol a chenedlaethol mewn llenyddiaeth a diwylliant modern cynnar a chyfoes;  llenyddiaeth ‘pedair cenedl’ ac ‘archipelegaidd’;
  • llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg gymharol;
  • enwau lleoedd ac enwau personol Celtaidd hynafol yn Ewrop ac yn Asia Leiaf;

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ddiweddaraf cadwodd yr Adran ei henw da am gyhoeddiadau ymchwil  o safon flaengar drwy’r byd, a rhagoriaeth rhyngwladol. Barnwyd bod 25% o gyhoeddiadau’r adran yn flaengar drwy’r byd (4*) ac ystyriwyd bod 30% arall yn ‘rhyngwladol ragorol’ (3*).

Mae’r  cylchgronau pwnc-ddiffiniol canlynol yn cael eu golygu gan aelodau o’r staff:

  • Dwned (Dr Bleddyn Owen Huws)
  • The Journal of Celtic Linguistics (Dr Simon Rodway)

Mae proffiliau'r staff yn cynnwys gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil unigol y staff.

Drwy’r blynyddoedd mae’r Adran wedi derbyn grantiau allanol ar gyfer prosiectau cydweithredol. Yn eu plith mae:

  • Llenyddiaeth Cymru ac Ewrop (cynhadledd i fod yn 2016)
  • ‘Barddoniaeth Menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru  1400–1800’ (Ymddiriedolaeth Leverhulme)
  • ‘Ptolemy: Towards a Linguistic Atlas of the Earliest Celtic Place-Names of Europe’
  • ‘Gohebiaeth Carneddog a Rhai o’i Gyfoedion’
  • ‘Gaulish Morphology with Particular Reference to Areas South and East of the Danube.’

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan o Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol y Brifysgol (ALlIC), sy’n golygu bod ymchwil y staff yn cael ei gefnogi gan awyrgylch golegol, gan gynnwys cyfres o seminarau Adrannol, cyfres o seminarau Athrofaol, a dwy Ganolfan Ymchwil Athrofaol, sef Canolfan Diwylliannau Lle a Chanolfan Cyfieithu Diwylliannol.

Mae gennym fantais sylweddol arall. Mae Aberystwyth yn gartref i amryw o sefydliadau allweddol, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un bump o llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Gyfunol.

Dolenni defnyddiol:

Centre for Cultures of Place

Seminarau Ymchwil ALlICC

Cadair

‘Barddoniaeth Gwragedd yn Iwerddon, yr Alban a Chymru 1400–1800’