Dr Bleddyn Owen Huws
Mae Dr Huws yn arbenigwr ar un o genres llenyddol cyfnod y Cywyddwyr, sef y canu gofyn a diolch. Cyhoeddodd astudiaeth arloesol o’r genre yn y gyfrol Y Canu Gofyn a Diolch c.1350-c.1630 (1998), a dilynwyd honno gan ddetholiad o gywyddau enghreifftiol a olygwyd ganddo, sef Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch (1998). Mae’n parhau i ymddiddori yng ngwaith y Cywyddwyr, a chyhoeddodd nifer o erthyglau yn ddiweddar sy’n taflu goleuni newydd ar sawl agwedd ar y maes.
Ymddiddora hefyd yn llenyddiaeth werinol bro Eryri. Cyhoeddodd lyfryn ar ymdrech Carneddog (Richard Griffith) i gyhoeddi Cerddi Eryri rhwng y ddau Ryfel Byd, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn golygu testun o’r ohebiaeth a fu rhwng Carneddog a Gwallter Llyfni (Walter S. Jones), dau fardd gwlad a llenor bro.
Mae Dr Huws yn gyd-olygydd Dwned, cylchgrawn hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol.
Cyhoeddiadau
Cymraeg Safon Uwch - Help llaw gydag astudio Martha, Jac a Sianco: Nodiadau ar gyfer astudio nofel Caryl Lewis (2009), 46tt.
'Dafydd Cyffin (m.1462); Un o Noddwyr
Guto'r Glyn', Llên Cymru 31 (2008),
90-103.
'Drwg fydd tra awydd: Cywydd 'Trafferth Mewn Tafarn' Dafydd ap Gwilym a'r bregeth Ganoloesol', Dwned, 14 (2008), 89-106.
Adolygiad ar Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr; Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 (Caerdydd 2005) yn Studia Celtica 42 (2008), 182-4.
'Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch', Dwned, 13 (2007) 97-137.
'Meibion Iolo Goch', Llên Cymru, 30 (2007), 44-56.
‘...henffurf y mynyddoedd hyn’: Eryri yn ein Llenyddiaeth’, Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau, 2005, 28 tt.
'Y Gorffennol sy'n Bresennol: Cipolwg ar un o Gerddi Myrddin ap Dafydd', Barddas, 281 (Chwefror/Mawrth, 2005), 6-9.
''Dros fy mhlu ar draws fy mhlwyf': Golwg Newydd ar 'blu' Dafydd ap Gwilym', Dwned, 10 (2004), 33-53.
'Rhan o awdl foliant ddienw i Syr Dafydd Hanmer', Dwned, 9 (2003), 43-64.