Dr Huw Meirion Edwards
Enillodd Dr Edwards ei ddoethuriaeth am astudiaeth o elfennau poblogaidd a chyfandirol ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil honno yn y gyfrol Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (OUP, 1996). Ers hynny bu’n ymchwilio’n helaeth ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol, gan ganolbwytio’n bennaf ar ganu Dafydd ap Gwilym ac ar ganu dychan y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cyhoeddodd ddwy gyfrol yng nghyfres Beirdd yr Uchelwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: Gwaith Prydydd Breuan a Cherddi Dychan Eraill o Lyfr Coch Hergest (2000), a Gwaith Madog Dwygraig (2006) sy’n cynnwys golygiad o gerddi un o feirdd pwysicaf y traddodiad dychan Cymreig. Mae hefyd yn un o olygyddion y wefan Dafydd ap Gwilym.net sy’n cynnwys golygiad electronig newydd o holl waith y bardd. Cyhoeddir Cerddi Dafydd ap Gwilym ar sail y wefan yn 2010. Bellach mae’n aelod o bwyllgor golygyddol seithfed prosiect y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: Barddoniaeth Guto’r Glyn.
Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil eraill y mae’r canu rhydd cynnar, llên glasurol a phoblogaidd y ddeunawfed ganrif a barddoniaeth Oes Fictoria. Mae ganddo ddiddordeb brwd yn ogystal mewn barddoniaeth ddiweddar. Mae’n un o diwtoriaid y cwrs Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran ac yn cyhoeddi ei farddoniaeth ef ei hun yn rheolaidd, yn y mesurau caeth yn bennaf.
Cyhoeddiadau
'Canu Serch Hywel ab Owain Gwynedd' yn Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd Dywysog, gol. Nerys Ann Jones (Caerdydd, 2009), tt.66-110
'Y Canu Dychan yng Nghymru yr Oesoedd
Canol' , Cof Cenedl xxiii (2008),
tt.1-33
'Y Ddinas Ddihenydd? Delweddau o Gaerdydd yn ein Llenyddiaeth' - Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch (2008)
' "Yn newydd ei gywydd gynt": confensiwn a dyfeisgarwch yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym', Taliesin, 131 (Haf 2007), 44-62
'Canu Serch Hywel ab Owain Gwynedd', Llên Cymru, 30 (2007), 1-16.
Rhagymadrodd ' Y Cyd-destun Llenyddol'
a golygiad newydd o r33 o
gerddi Dafydd ap Gwilym (Prifysgol Abertawe 2007).
http://www.dafyddapgwilym.net/index_cym.php
Gwaith Madog Dwygraig, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr (Aberystwyth, 2006), xvii + 159.
'A Multitude of Voices: The Free-Metre Poetry of Iolo Morganwg', A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg, gol. Geraint H. Jenkins (Caerdydd, 2005), tt. 95-121.
'Barddas: Y chwarter canrif cyntaf', Alan: Casgliad o Gerddi ac Ysgrifau ar Alan Llwyd, gyda llyfryddiaeth lawn o'i waith gan Huw Walters, gol. Huw Meirion Edwards (Llandybïe, 2003), tt.63-90.