Dr Ian Hughes
Mae Dr Ian Hughes wedi arbenigo’n bennaf ym maes rhyddiaith frodorol Gymraeg yr Oesoedd Canol. Mae wedi cyhoeddi golygiadau Cymraeg newydd o ddwy o geinciau’r Mabinogi, Math Uab Mathonwy (Prifysgol Cymru Aberystwyth, 2000), a Manawydan Uab Llyr (Gwasg Prifysgol Cymru 2007). Enillodd wobr Vernam Hull yn 2007 am y cyhoeddiad hwn. Mae Dr Hughes ar hyn o bryd wrthi’n cwblhau golygiad Saesneg o Math Uab Mathonwy ar gyfer cyfres fyd-enwog ‘Medieval and Modern Welsh Series’, Sefydliad Uwchefrydiau Celtaidd Dulyn. Ei fwriad yn y dyfodol agos yw cynhyrchu golygiadau Cymraeg newydd o ddwy gainc arall y Mabinogi, sef Branwen Uerch Lyr a Pwyll Pendeuic Dyuet.
Cyhoeddodd nifer o erthyglau ar Bedair Cainc y Mabinogi yn ogystal â rhai ym maes y Chwedl Arthuraidd yng Nghymru. Mae ei ddiddordeb yn y testunau canoloesol yn cwmpasu testunau apocryffaidd yn y Gymraeg ac yn yr Wyddeleg. Cyhoeddodd eisoes fersiwn Gwyddeleg Canol o Evengelium Nicodemi a bu’n gweithio ar fersiwn Cymraeg Canol o’r un testun gyda’r bwriad o’i gyhoeddi maes o law. Yn ogystal â’i ddiddordebau a’i ddyletswyddau dysgu ym maes testunau Cymraeg Canol, mae Dr Hughes yn ymddiddori yn iaith a llenyddiaeth yr Wyddeleg a Gaeleg yr Alban, yn enwedig yn y cyfnod modern.
Cyhoeddiadau
Manawydan Uab Llyr, Trydedd Gainc y Mabinogi: Golygiad Newydd ynghyd â Nodiadau testunol a Geirfa Lawn (Caerdydd 2007) i-xxxvii - 1-98.
'Camlan, Medrawd a Melwas', Dwned, 13 (2007), 11-46.
'Triadic Structure in Manawydan Fab Llŷr', Proceedings of the Seventh Symposium of the Societas Celtalogica Nordica (Uppsala, 2007) 99-109.
'The Four Branches of the Mabinogi and Medieval Welsh Poetry', Studi Celtici IV (2006), 155-193.