Yr Athro Marged Haycock

Mae’r Athro Haycock yn arbenigo ym marddoniaeth y Cynfeirdd a’r Gogynfeirdd, yn enwedig y gweithiau hynny sy’n dangos pa mor amlochrog oedd y beirdd cynnar. Gan ddilyn y trywydd hwn, golygodd Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (1994), a chyfrol arloesol ar y Taliesin chwedlonol, sef Legendary Poems from the Book of Taliesin (2007). Ar hyn o bryd mae hi’n paratoi cymar gyfrol ar y canu darogan, sef Prophetic Poems from the Book of Taliesin. Mae ei gwaith ymchwil yn y meysydd hyn yn cyfoethogi tri modiwl Rhan II, sef y Canu Arwrol Cynnar, Y Cynfeirdd Diweddar, a Cherddi’r Gogynfeirdd, ac mae diddordeb ymchwil arall yn cael ei adlewyrchu yn ei modiwl poblogaidd ar Ferched a Llenyddiaeth cyn 1500, ac yn y llyfr sydd ganddi ar y gweill i gyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig a gyhoeddir gan Wasg Prifsygol Cymru. Mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth hefyd ar  arwyddocâd a symboliaeth nwyddau traul fel bwyd, diod, a  thecstiliau yn yr Oesoedd Canol; ar lên a llenorion y Gororau; hanes ysgolheictod; ac ar dderbyniad llenyddiaeth ganoloesol — er enghraifft yn ei chyfraniad am hynt y Dywysoges Heledd, yng nghyfrol deyrnged Gwyn Thomas, Gweledigaethau, gol. J. Walford Davies, 2007. Mae’r Athro Haycock yn aelod o Peer Review College yr AHRC, ac mae’n cydlynu gweithgareddau ein myfyrwyr uwchraddedig ers ugain mlynedd yn ogystal â chyfarwyddo nifer fawr o ymchwilwyr.

Cyhoeddiadau

' Poezie en textiel in laat middeleeuws Wales', Kelten 37 ( Chwefror 2008).

Legendary Poems from the Book of Taliesin (CMCS, Aberystwyth, 2007).

'Hanes Heledd hyd Yma', yn Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged i Gwyn Thomas, gol. Jason Walford Davies (Barddas, Abertawe, 2007).

'Scholarship and Creativity in the work of Ffransis G. Payne', Transactions of the Radnorshire Society 2005.

Taliesin a Brwydr y Coed, Darlith Goffa J. E. a Gwen Caerwyn Williams 2004 (Aberystwyth, 2005).

'''Sy abl fodd, Sibli fain": Sibyl in Medieval Wales', yn Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition: A Festschrift for Patrick K. Ford, Blwyddlyfr 3-4 CSANA (Gwasg Four Courts, Dulyn, 2005).

'Literary Criticism in Welsh before c. 1300', yn The Cambridge History of Literary Criticism, Cyfrol II, The Middle Ages, goln. Alastair Minnis a Ian Johnson (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Caergrawnt, 2005).

Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol , Cyfrol Goffa J. E. Caerwyn Williams, wedi'i olygu ar y cyd â Dafydd Johnston, Jenny Rowland a Iestyn Daniel (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2003).

'Between Cardiff and Cork: Scholarship on Medieval Welsh Literature since 1963', yn Retrospect and Prospect in Celtic Studies: Proceedings of the Eleventh International Congress of Celtic Studies, goln. Máire Herbert a Kevin Murray (Gwasg Four Courts, Dulyn, 2003).

'Defnydd hyd Ddydd Brawd: Rhai Sylwadau ar Ferched ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol', yn Cymru a'r Cymry 2000, gol. Geraint H. Jenkins (Aberystwyth, 2001).