Dr Mihangel Morgan
Ysgrifennodd Mihangel Morgan ei ddoethuriaeth ar Themâu, Motiffau a Chymeriadau yng ngwaith John Gwilym Jones. Yr ugeinfed ganrif a’r ganrif hon yw ei brif faes, er iddo gyhoeddi erthygl ar Ellis Wynne a’i fod yn gyd-ddarlithydd ar y modiwl Llên 1640-1740 gyda Dr Huw Meirion Edwards. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol yng nghyfres Llên y Llenor sef Jane Edwards a Caradog Prichard. Ymddangosodd erthyglau ganddo ar John Gwilym Jones, Kate Roberts, Caradog Prichard, Waldo Williams yn Llên Cymru, Y Traethodydd ac Ysgrifau Beirniadol.
Fel cydlynydd y modiwl ‘Llên Gwerin Hen a Chyfoes: Patrymau Byw’, mae ganddo ddiddordeb mewn chwedlau gwerin a dinesig cyfoes ac mae’n gweithio ar gyfres o ysgrifau ar bynciau megis y chwedlau sy’n gysylltiedig â’r llun Salem, traddodiadau Calan Gaeaf diweddar a datblygiad arferion Nadolig yng Nghymru.
Ar wahân i hynny mae Mihangel Morgan wedi cyhoeddi astudiaethau ar y celfyddydau gweledol gan gynnwys gwerthfawrogiad o waith Catrin Howells, y ffotograffydd Weegee a ffilmiau Cymreig.
Prif ddiddordeb Mihangel Morgan yw ei waith llenyddol. Hyd yn hyn mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi, pum cyfrol o storïau byrion, saith nofel, nofel i ddysgwyr a chyfrol o gerddi i blant. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nofel arall a chyfrol o atgofion teuluol.
Mae’n aelod o banel Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru.
Cyhoeddiadau
Cestyll yn y Cymylau, (Tal-y-bont, 2007), 143tt.
Digon o Fwydod, (Llandybïe, 2005), 53tt.
Croniclau Pentre Simon, (Tal-y-bont, 2003), 303tt.
Pan Oeddwn Fachgen, (Tal-y-bont, 2002), 112tt.
Y Ddynes Ddirgel, (Tal-y-bont, 2001), 174tt.