Dr Rhisiart Hincks

Ar hyd ei yrfa academaidd, mae Dr Hincks wedi ymddiddori mewn llenyddiaeth ac mewn iaith, yn ogystal ag yn y gydberthynas rhwng y ddau bwnc.   Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir, yn y naill faes, gofiant i’r bardd a’r golygydd E. Prosser Rhys (1980), ac yn y llall, astudiaeth ar ysgolheictod a’r Llydaweg hyd at ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: I Gadw Mamiaith mor Hen (1995). Ymhyfryda hefyd mewn dulliau dysgu ieithoedd a chyhoeddodd amryw eiriaduron a gwerslyfrau Cymraeg a Llydaweg. Maes arall sydd yn mynd â’i fryd yw arferion a sgiliau cyfieithu. Cyhoeddodd amryw gyfieithiadau llenyddol ac mae’n arholwr ymgynghorol i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Bu’n ymchwilio hefyd i buryddiaeth eirfaol a gramadegol a’i dylanwad ar ieithoedd lleiafrifedig. Ymdriniodd ag agweddau ar hyn yn Geiriau Llydaweg a Fabwysiadwyd gan y Geiriadurwyr Thomas Jones, Iolo Morganwg, William Owen Pughe ac eraill (1993), yn Yr Iaith Lenyddol fel Bwch Dihangol yng Nghymru ac yn Llydaw/The Literary Language as a Scapegoat in Wales and in Brittany (2000), ac yn ‘Heb fenthyca cymaint a sill ar neb o ieithoedd y byd,’ Cymysgiaith a Phuryddiaeth gyda golwg Neilltuol ar Burdeb Geirfa yn y Gymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymrheg ac ar Ddechrau’r Ugeinfed Ganrif.  ( 2007).’

Ar yr ochr lenyddol, mae Dr Hincks wedi cynnig dadansoddiad o’r darlun o wyr eglwysig yn nhraddodiad y baledi yn Llydaw, yn Bezañ beleg a zo kargus / koulz ’vel bezañ relijiuz (2007), ac ymdriniaeth â lle’r dref a’r ddinas mewn barddoniaeth Lydaweg, yn Pob un yn ei Baradwys / yn ei Uffern ei hun (2007).

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar hanes y Gymraeg a’r modd y llwyddwyd i ennill hawliau ieithyddol i’r iaith ac mae hefyd wedi dechrau ymchwilio i syniadau a dysg y llenor a’r geiriadurwr Llydaweg Frañsez Vallee. Pwnc arall y bwriada ymdrin ag ef yw dulliau dysgu’r Gymraeg a’r Llydaweg, a sut y maent, er gwell neu er gwaeth, wedi newid dros y degawdau diwethaf.

Mae’n ysgrifennu yn rheolaidd yn y cylchgrawn Al Lanv ac efô yw golygydd Breizh / Llydaw, cylchgrawn Cymdeithas Cymru-Llydaw.

Cyhoeddiadau

Pawb yn ei Baradwys/Yn ei Uffern eu hun: Y Dref a’r ddinas mewn Barddoniaeth Lydaweg, (Roazhon, 2007), 1-202.

Bezañ beleg a zo kargus/Koulz ’vel bezañ relijiuz, (Roazhon, 2007), 1-173.

‘Heb fenthyca cymaint a sill ar neb o ieithoedd y byd’, Cymysgiaith a Phuryddiaeth gyda Golwg neilltuol ar Burdeb Geirfa yn y Gymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg ac ar Ddechrau’r Ugeinfed Ganrif, (Aberystwyth, 2007).

Geriadurig brezhoneg - kembraeg/Geiriadur Bach Cymraeg - Llydaweg, (Fouenant, 2005), 1-474.

Kentelioù Brezhoneg Diazez/Cwrs Llydaweg Sylfaenol, (Aberystwyth, 2001), dwy gyfrol, 362tt., 85tt.

Yr Iaith Lenyddol fel Bwch Dihangol yng Nghymru ac yn Llydaw/The Literary Language as a Scapegoat in Brittany and Wales, (Aberystwyth, 2000), 41tt.