Dr T Robin Chapman
Mae
Dr Robin Chapman yn gweithio ar hyn o bryd ar gyfrol 160,000 o eiriau ar hanes
llenyddiaeth Gymraeg c.1740-2005 i gyfres The Oxford Literary History of Wales. Yn ôl y golygydd, Dr
Damian Walford Davies, cyfres yw hon a fydd ‘…yn herio uniongrededd ac yn
cynnig hanesion llenyddol amgen, fel y gall portreadau newydd hanfodol o’r
cynnyrch llenyddol a’r cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol
ddatblygu’. Ffocws gwaith Dr Chapman fydd y modd y mae esblygiad gwahanol
fathau o ddarllenwyr wedi pennu cyfeiriad llenyddiaeth Gymraeg yn ystod y
cyfnod dan sylw.
Ym mis Ebrill 2010, bydd yn traddodi Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams yn
y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, dan y teitl:
'Damhegion, distawrwydd a "dychrynodau": rhethreg ysgrifau T. H.
Parry-Williams'.
Cyhoeddiadau
Rhys Evans Gwynfor Evans: a portrait of a patriot (Talybont, 2008) 526tt.
Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis, (Llandysul. 2006), xxix + 402tt.
gol., The Idiom of Dissent: Protest and Propaganda in Wales, (Llandysul, 2006), x + 165tt.
Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill: Golwg ar y Dymer Delynegol, 1891-1940, (Caerdydd, 2004), 153tt.
Rhywfaint o Anfarwoldeb: Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis, (Llandysul, 2003), 248tt.