Dr William Mahon
Americanwr o dalaith New Jersey yw Dr William Mahon, a dreuliodd ryw bymtheg mlynedd yn dysgu Gwyddeleg dros Cumann na Gaeilge i Boston (Cymdeithas Wyddeleg Boston), Boston College, a Phrifysgol Harvard cyn iddo ymuno ag Adran y Gymraeg yn Aberystwyth ym mis Medi 1995. Geiriaduraeth Wyddeleg y canol oesoedd cynnar oedd pwnc ei draethawd PhD (1987), ond dros y blynyddoedd mae prif ffocws ei ymchwil wedi troi at iaith a llenyddiaeth y cyfnod 1600-1850. Gwelwyd peth o ffrwyth yr ymchwil honno yn y gyfrol Dr Kirwan’s Irish Catechism (1991), testun o ddiddordeb mawr o ran hanes cymdeithasol a thafodieitheg, a The History of Éamonn O’Clery (2000), argraffiad a chyfieithiad o Stair Éamainn Uí Chléire (c.1708), nofelig barodïaidd ac alegorïaidd gan Seán Ó Neachtain (c.1640-1727).
Ar hyn o bryd mae’n paratoi argraffiad newydd a chyfieithiad o Táin Bó Geanainn [Dwyn Gwartheg Geanainn], nofelig gomig a ysgrifenwyd tua 1700. Mae Dr Mahon yn arbenigwr hefyd ar hanes yr iaith Wyddeleg yn America a chyhoeddwyd dwy gyfrol yn y meysydd hyn ganddo yn ddiweddar: Catalogue of Irish Manuscripts in Villanova University, Pennsylvania (2007), a Thomas Griffin (1829-96) of Corca Dhuibhne & the Irish Community of Lawrence, Massachusetts (2007). Mae Dr Mahon yn darlithio ar bob lefel o Wyddeleg Modern a Gwyddeleg Modern Cynnar yn Adran y Gymraeg, ac mae wedi datblygu cwrs newydd Gwyddeleg Modern ar gyfer dechreuwyr yn Lefel 1. Mae’n gerddor hefyd sy’n canu cerddoriaeth draddodiadol Wyddelig ar y ffliwt, ac mae’n dod â’r wybodaeth honno i’w fodiwl ‘Cerddoriaeth Draddodiadol y Gwledydd Celtaidd’.
Cyhoeddiadau
Thomas Griffin (1829-96) of Corca Dhuibline and the Irish Community of Lawrence, Massachusetts (Aberystwyth: Adran y Gymraeg, 2007) xii + 207 tt.
Catalogue of Irish Manuscripts in
Villanora University, Pensylvania (Dublin: School of Celtic
Studies [Dublin Institute for Advanced Studies] 2007)
102 tt.
'Eoghan Rua Ó Suilleabháin's Aisling Parody: An Phis', Priceedubgs if the Seventh Symposium of Societas Celtologica Nordica (2007)
'Old-Irish Verse Fragments Attributed to Fer Muman mac Echtain', Studi Celtici 4 (Rhagfyr 2006), 223-356 tt.
'Moddau a thonyddiaeth cerddoriaeth Iwerddon', Canu Gwerin, 23 (2000), 63-92.
The History of Éamonn O'Clery (Seán Ó Neachtain): Translated and Annotated with an Edition of the Irish Text, (Indreabhán, 2000), 231tt.
'The Aisling elegy and the poet's appropriation of the feminine', Studia Celtica, XXXIV (2000), 249-70 tt.