Sut i Wneud Cais
Rhaid i bob ymgeisydd fynnu ffurflen gais UCAS o'i ysgol neu goleg. Gall myfyrwyr aeddfed gael ffurflen o'u Swyddfa Gwasanaeth Gyrfaoedd leol, neu'n uniongyrchol gan UCAS. Y cyfeiriad yw: Fulton House, Jessop Avenue, Cheltenham, Gloucestershire GL50 3SH. Rhif ffôn: +44 (0) 1242 227788.
Ceir manylion am gyrsiau'r Adran (ynghyd â'r pynciau y medrir eu cyfuno mewn gradd gyfun) ar y wefan hon ac ym Mhrosbectws Prifysgol Aberystwyth y gellir anfon am gopi ohono i'r Ganolfan Groeso i Fyfyrwyr, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3FB. Paratowyd llyfrynnau penodol ar y Gymraeg, Astudiaethau Celtaidd, y Llydaweg a Chymraeg i Ddechreuwyr, a gellir cael copi ohonynt drwy anfon i'r un cyfeiriad, neu os mynnwch, yn uniongyrchol i'r Adran.
Pan fyddwch wedi dewis eich cyrsiau yn Aberystwyth (cod a rhif y sefydliad hwn yw ABWTH A40), wedi cwblhau llenwi'ch ffurflen ac wedi ei hanfon yn ôl i UCAS, byddwn ni yn y man yn derbyn copi ohoni. Rhown ystyriaeth ofalus i bob cais, a byddwn yn eich gwahodd i Ddiwrnod Ymweld yr Adran er mwyn ichi gael sgwrs anffurfiol ag aelodau'r staff a'u holi am gynnwys y cyrsiau ac am fywyd myfyriwr yn Aberystwyth yn gyffredinol.
Y pwyntiau gofynnol ar gyfer Cymraeg Sengl, Gwyddeleg neu Astudiaethau Celtaidd yw 260 pwynt. Disgwylir y bydd myfyriwr sydd am astudio Cymraeg Sengl neu Gyfun (iaith gyntaf neu ail iaith) wedi ennill o leiaf 100 pwynt (gradd B) yn yr arholiad Cymraeg Safon Uwch (A2). Ar gyfer y radd sengl Cymraeg Proffesiynol disgwylir fel rheol radd A yn y Gymraeg (iaith gyntaf). Ystyrir hefyd gymwysterau amgen fel GNVQ (lefel 3), y Fagloriaeth Gymreig a’r Baccalaureate Ryngwladol. Byddwn fel arfer yn cyfweld myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt gymhwyster academaidd safonol diweddar.
Bydd ymgeiswyr yn clywed yn swyddogol gan UCAS a fuont yn llwyddiannus yn derbyn cynnig gan y Coleg ai peidio.
Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau
Mae gan Brifysgol Aberystwyth nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gael. Am fwy o fanylion gweler yma.