Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau

Bwrsariaethau Rhagoriaeth

Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni anrhydedd sengl, cyfun a phrif bwnc yn y Gwyddorau, Ieithoedd Ewropeaidd, Cymraeg a cynlluniau penodol cyfrwng Cymraeg. Maent werth £2,000 (£1,400 ar gyfer HND/FDI) dros gyfnod arferol y cwrs.

Amodau

a) Rhaid i chi fod wedi derbyn cynnig o le i astudio yn Aberystwyth erbyn diwedd Mehefin y flwyddyn fynediad.
b) Mae'r fwrsariaeth yn daladwy mewn taliadau blynyddol, ac yn ddibynnol ar ddatblygiad academaidd llwyddiannus.
c) Dim profiad blaenorol o Addysg Uwch.

Ysgoloriaethau Mynediad

Mae gan Brifysgol Aberystwyth nifer o ysgoloriaethau a gwobrau ar gyfer y rhai hynny yn eich plith sy'n gwneud cais i ddod i Aberystwyth. Cynhelir yr arholiadau nesaf ym mis Chwefror 2010.

Beth yw'r manteision?

Cynnig diamod.
Gwerth hyd at £3,600 dros dair blynedd.
Sicrwydd o lety Prifysgol am dair blynedd.
Gwobrau Teilyngdod o £1000 ynghyd â chynnig diamod i ymgeiswyr sy'n cyrraedd safon arbennig yn y ddau bapur ysgoloriaeth.

Pa ysgoloriaethau sydd ar gael?

Ysgoloriaethau Evan Morgan

Os ydych rhwng 17 a 25 oed.
Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru.
Os buoch yn ddisgybl mewn ysgol/coleg yng Nghymru am o leiaf 2 flynedd.
Os gallwch ddangos tystiolaeth bod gennych wybodaeth o'r Gymraeg a'r Saesneg ynghyd â naill ai Mathemateg neu Wyddoniaeth Naturiol.

Ysgoloriaethau Agored

Unrhyw fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais i UCAS, sydd dros 17 oed ac sydd heb fod yn fyfyrwyr gradd mewn unrhwy Brifysgol neu Goleg.

Ysgoloriaethau Cyfyngedig

Gweler Prosbectws yr Ysgoloriaethau am fanylion.

Arholiad a Meysydd Llafur

a) Cymraeg (Iaith Gyntaf): Dwy adran, sef Dadansoddi Llenyddiaeth a Defnyddio'r Iaith (gofynnir i'r ymgeisydd ateb un cwestiwn o bob adran).
b) Cymraeg (Iaith Fodern).

Gellir cael Prosbectws Ysgoloriaethau Mynediad, hen bapurau arholiad a ffurflen gais ar lein: www.aber.ac.uk/cy/scholarships neu drwy anfon at:

Prifysgol Aberystwyth, Swyddfa'r Post
RHADBOST NWW 16859
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3ZY

Ffôn: +44(0)1970 622065