Yr Athro Tim Woods
Deon Cyfadran y Celfyddydau
BA, MA, PhD
Cyswllt
Ebost: tww@aber.ac.uk
Rhif Ffon: +44 (0)1970 622532
Bywgraffiad
Yn fab i ffisegwr diamwntau ac artist-gynllunydd, ymfudodd yr Athro Tim Woods i’r DU o Dde Affrica ddiwedd y 1970au gyda’i rieni a’i ddau frawd. Ar ôl cwblhau’i raddau BA, MA a PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg ym mhrifysgolion Bryste a Southampton, a chyfnod byr fel darlithydd dros dro ym Mhrifysgol Caer-wynt, fe’i penodwyd yn gyntaf i swydd Darlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1990. Yna, rhoddwyd cadair bersonol iddo yn 2003 ac fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol rhwng 2002-2007. Fe’i penodwyd yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau yn 2007. Ers ei benodi ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu’n aelod o nifer o bwyllgorau’r Brifysgol, cynhaliodd nifer o adolygiadau archwilio sefydliadol allanol, a bu’n Aseswr Cymheiriaid ar gyfer yr AHRC ac yn aelod o’r panel ar gyfer RAE 2008.