Yr Athro Len Scott
Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol
BA, MA, DPhil
Cyswllt
Ebost: lvs@aber.ac.uk
Rhif Ffon: +44 (0)1970 622697
Bywgraffiad
Daeth yr Athro Scott i Aberystwyth yn 1990 yn sgil saith mlynedd yn San Steffan a Whitehall. Ar ôl cwblhau’i radd DPhil yn Rhydychen yn 1983, lle’r oedd ganddo swydd ymchwil yng Ngholeg Nuffield, daeth yn gynghorydd gwleidyddol i’r Gwir Anrh. Denis Healey, AS, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, yn 1984. Yn 1988, ymunodd â Thrysorlys Ei Mawrhydi. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aber yn 1990, ac fe’i dyrchafwyd i swydd Uwch Ddarlithydd (1997), Darllenydd (2001) ac Athro (2004). Mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch. Ac yntau’n Gyfarwyddwr sylfaenol y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol rhwng 2004-7, dychwelodd i’r rôl hon yn 2009. Yr Athro Scott oedd Deon y Gwyddorau Cymdeithasol rhwng 2000 a 2005, a dychwelodd i’r swydd hon ym mis Medi 2009.