Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Datblygu a
Chysylltiadau Alumni

Croeso

Croeso i’r wefan Datblygu a Chysylltiadau Alumni.  Yma cewch hyd i bopeth sydd arnoch angen ei wybod am weithgareddau ac adnoddau’r alumni yn ogystal â’n cynlluniau datblygu.  

Mae’r Swyddfa Ddatblygu yma i’ch helpu, pa un ai eich bod eisiau cadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr, defnyddio rhwydwaith Aber o dros 56,000 o gyn-fyfyrwyr mewn dros 50 o wledydd, cael cyngor gyrfaol ar ddechrau neu ar ganol eich gyrfa gan raddedigion eraill yn eich maes o Aber, neu ddathlu eich amser yn Aber trwy raglen o aduniadau, cyfarfodydd daearyddol a phroffesiynol, grwpiau buddiant a gweithgareddau chwaraeon.

Cyswllt Aber

Cronfa ddata ar-lein yw Cyswllt Aber, ac yno y cewch ddod o hyd i gyfeillion, rhwydweithio drwy holl deulu alumni Aberystwyth, cofrestru am ddigwyddiadau (a gweld pwy arall sy’n mynd), a chael manteisio ar holl fuddiannau bod yn alumnus/a Aber. Mae’r sustem yn cael ei rhoi ar waith ar hyn o bryd, ac yn ystod y misoedd nesaf, wrth inni roi cynnwys ar y sustem, fe gewch y manylion personol y bydd eu hangen er mwyn cael defnyddio’r sustem.

Ydych chi ar Goll?

Ydych chi’n derbyn cyfathrebiadau rheolaidd gan Aber?  Os nad ydych, mae’n debyg ein bod wedi colli cysylltiad â chi. Cysylltwch â ni er mwyn i’r Brifysgol allu cysylltu â chi eto.

Diweddaru Eich Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon i ddiweddaru unrhyw newid i’ch cyfeiriad neu fanylion cyswllt.

Digwyddiadau sydd ar y gweill

Cliciwch er mwyn gweld digwyddiadau sydd ar y gweill.

Cliciwch er mwyn gweld yr argraffiad diweddarach o gylchlythyr Alumni Aber.

Cefnogaeth Gref i’r Gronfa Flynyddol 

Yn sgil llwyddiant Cronfa Flynyddol 2009/10, pan gafwyd cefnogaeth gan bron i 1,500 o alumni a chyfeillion a chefnogwyr eraill, a roddodd dros £250,000 i brosiectau’r Gronfa, mae apêl 2010/11 wedi dechrau eisoes. Cliciwch yma am fanylion y Gronfa a sut i’w chefnogi

Mae llysgennad arbennig Aber, Baabaa Blodwen Wooliams, wrthi’n teithio bedwar ban byd o’r Antarctig i Washington DC, yn cyfarfod â alumni ac yn cael pob math o anturiaethau. Dilynwch ei blog drwy glicio ar ei llun. 

Ymunwch a ni ar......