Digwyddiadau
Digwyddiadau arfaethedig ar gyfer, neu a fydd o ddiddordeb i, alumni Aber (cliciwch i gael rhagor o wybodaeth):
Aber yn Athen - Dydd Sadwrn, Mawrth 31 2012
|
Mae Viktor Papatheodorou, ein cynrychiolydd alumni yng ngwlad Groeg yn cynnal digwyddiad i gynulliad o gynfyfyrwyr Aber yn Athen.Fe fydd Julian Smyth,Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, David Moyle o’n Swyddfa Denu a Derbyn, a Nicholas Perdikis, Cyfarwyddwr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yna hefyd. Mae gwahoddiad i pob alumni o Aber:
|
Darlith Llanymddyfri 2012 - 9 Mehefin 2012
|
Cynhelir Darlith Llanymddyfri 2012 ar 9 Mehefin yng Ngholeg Llanymddyfri. Y siaradwr fydd yr Athro Stuart Cole, arbenigwr a chanddo 30 mlynedd o brofiad mewn trafnidiaeth, mewn prifysgolion ac fel ymgynghorwr trafnidiaeth i Gyngor Twristiaeth Lloegr (1998-2000), ac fel Ymgynghorwr Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin (1984-2006). Bydd yn siarad am hanes a dyfodol y Great Western Railway a’i bwysigrwydd hanfodol i Gymru. Am wybodaeth bellach neu i archebu tocynnau, anfonwch e-bost at osaadmin@aber.ac.uk. |
Cangen Caerdydd Cymdeithas Y Cyn-fyfyrwyr - Dydd Sul 11eg Mis Mawrth
| Fe fydd cinio dau gwrs efo caws a coffi am 12.30 ar gyfer 1 y.p. yn neuadd coffa Rhiwbina, Gerddi Rhiwbina, Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer ein cronfa bwsariaeth. Fe fydd tocynnau yn £25 yr un: Plis a wnewch chi cysylltu a Louise Perkins yn y swyddfa Datblygu ar 01970 622 081. |
Cangen Caerdydd Cymdeithas Y Cyn-fyfyrwyr - Dydd Sadwrn 19fed o Mai - Neuadd Eglwys Methodistaidd Cyncoed
Derbyniad Sioe Frenhinol Cymru - Dydd Mawrth 24ain Gorffennaf 2012
Fe fydd mwy o fanylion ar gael yn agosach at y digwyddiad.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fro Morgannwg - Dydd Mercher 8fed Awst 2012
Mae croeso i bawb dod, a fydd mwy o fanylion ar gael yn agosach at y digwyddiad.
Cic Arall I'r Bar 2012 - 17eg-19eg Awst 2012
Cyfle i ail-fyw eich amser yn Aber, dal lan gyda ffrindiau a chicio'r bar eto. Cliciwch fanhyn er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Aduniad Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth - 17eg-19eg Awst 2012
Yn cael ei chyd chynnal efo aduniad Cic Arall I'r Bar.