Cwestiynau Cyffredin

C: Rwyf wedi colli fy nhystysgrif gradd, sut mae cael gafael ar un arall?

A: Os gwnaethoch raddio o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, dilynwch y ddolen yma i ddod o hyd i’ch tystysgrif gradd. Neu, fel arall, anfonwch e-bost aocstaff@aber.ac.uk 

Os gwnaethoch raddio o Brifysgol Aberystwyth, cliciwch ar y ddolen yma.

 

C: Sut mae cael trawsgrifiad o’m gradd ar gyfer astudiaethau pellach neu swydd?

A: Ewch i’r ddolen ganlynol yma. Neu, fel arall, anfonwch e-bost aocstaff@aber.ac.uk.

 

C: Ble gallaf gael geirda?

A: Ar gyfer geirdâu academaidd, cysylltwch ag aelod penodol o’r staff academaidd, neu fel arall cysylltwch â’r staff gweinyddol yn yr adran academaidd o’ch dewis. Ar gyfer geirdâu am swyddi, cysylltwch â’ch cyn reolwr llinell. Gall y Cyfeiriadur Brifysgol ar gael yma.

 

C: Rwyf wedi colli cysylltiad â ffrind a oedd ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda fi, sut mae cysylltu â nhw eto?

A: Gallwch gysylltu â nhw drwy ymuno â phorth cyn-fyfyrwyr Aber neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni: alumni@aber.ac.uk

Gweler yma am wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn ymdrin â'ch data.