Hanes Dyngarwch Aber

Ar hyn o bryd mae Dr Susan Davies yn ymchwilio i hanes Dyngarwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn cael gwybod am yr holl gymorth hael a dderbyniwyd er mwyn i bobl gael addysg. Mae hanes dechreuad y brifysgol yr un mor bwysig heddiw ag erioed; yn wyneb yr heriau cynyddol i’n sector, mae’n rhaid i ni annog ein cefnogwyr i gynnal y sefydliad sut bynnag y gallant.

Wrth adrodd hanes dyngarwch ym Mhrifysgol Aberystwyth mae’n bwysig deall y rhesymau dros wneud rhoddion, eu gwerth i’n prifysgol, a sut y mae’r cyfranwyr hyn wedi dylanwadu ar brofiad alumni’r brifysgol. Mae haelioni aruthrol y cyhoedd dros y blynyddoedd wedi bod yn ysbrydoliaeth wirioneddol, ac wedi gwneud gwahaniaeth hollbwysig i’r sefydliad ac i’r myfyrwyr. 

Mae’r cyfan yn deillio o hanes cymdeithasol a chrefyddol Cymru yng nghanol y 19eg ganrif, wrth i bobl ddod yn fwyfwy ymwybodol o’r diffyg cyfleoedd i bobl gael addysg yng Nghymru. Er mwyn cael mynd i sefydliad addysgol roedd yn rhaid gwneud datganiad crefyddol yn unol â’r Eglwys Sefydledig, ac felly doedd dim lle yn y sefydliadau hyn i boblogaeth a oedd yn anghydffurfiol at ei gilydd. Am y tro cyntaf yn hanes datblygu’r prifysgolion, lluniwyd cysyniad coleg prifysgol anenwadol a bu cryn drafod arno, yn arbennig felly yn y wasg ffyniannus yng Nghymru a Lloegr.

A dyna gychwyn ymdrech genedlaethol, gan bobl Cymru ac ar ran pobl Cymru, yn adlewyrchu’r ysbryd anghydffurfiol a’i bwyslais ar wella’r hunan. Derbyniwyd llu o gyfraniadau, o symiau bach oddi wrth aelodau cymunedau a chynulleidfaoedd, i gannoedd o bunnoedd oddi wrth gefnogwyr llewyrchus a hyd yn oed filoedd oddi wrth yr ychydig a allai wneud hynny, a phob un o’r cyfranwyr yn ymroddedig i sefydlu Coleg Prifysgol i Gymru.

Mae rhoddion wedi bod yn hollbwysig i Aberystwyth drwy'r blynyddoedd, o’r 1860au hyd heddiw, ar sawl ffurf ac at sawl diben, drwy haelioni hynod galonogol.  Mae pob un o’r enghreifftiau hyn yn haeddu cael adrodd ei stori’n llawn, ond bydd ambell un yn ddigon i roi darlun o’r budd a gafwyd ac a ddefnyddiwyd at ddibenion rhagorol.

Defnyddiwyd y rhoddion cyntaf i brynu ac i addasu Gwesty’r Castell, nad oedd eto wedi ei gwblhau, ar lan y môr yn Aberystwyth, ym 1867, ac i baratoi i agor y Coleg ym 1872.

Bu haelioni ar bob lefel o gymorth i dalu costau cynnal y coleg ar adeg pan oedd dirfawr angen hynny, heb fod cymorth ar gael gan y llywodraeth.

Rhoddodd pobl hefyd yr un mor hael o’u hamser, eu hymdrechion a’u heiriolaeth, yn teithio, yn gweinyddu, yn codi arian ac yn ysgrifennu yn y wasg. Gwnaeth llawer o ffigurau allweddol y gwaith hwn law yn llaw â’u hymrwymiadau proffesiynol ym myd masnach a diwydiant, y gyfraith, addysg, gwleidyddiaeth ac mewn swyddi anghydffurfiol blaenllaw. Roedd angen casgliadau a chyfraniadau o hyd, yn enwedig ar ôl i dân ddinistrio adain y gogledd ym 1885.  Rhoddodd y Cymry alltud yn hael, er cof am eu mamwlad: Awstraliad roddodd do pren hardd y Cwad, a thrwy gyfraniadau o’r Unol Daleithiau a Chanada y llanwyd llyfrgell yr Hen Goleg.

Drwy ddyngarwch hefyd y tyfodd Prifysgol Aberystwyth, a’r tir a roddwyd iddi ar Benglais yn allweddol i’w datblygiad. Daeth y rhodd cyntaf oddi wrth Stuart Rendel, Llywydd y Coleg ar y pryd, a brynodd 14 erw ym 1897; daeth rhywfaint o’r tir hwnnw’n gartref i’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddarach.  Ym 1929 prynodd Joseph Davies Bryan y tir uwchlaw’r Llyfrgell hyd at Frynamlwg am bron i £15,000 (*tua £850,000) a’i roi i Goleg y Brifysgol, a dyna’r cyfan o gampws Penglais heddiw. 

Mae pobl wedi dod i adnabod Aber ac wedi gwirioni arni dros y cenedlaethau, fel y tystia’r teulu Davies o Landinam, a Gregynog wedi hynny. Am dros ganrif, rhoddodd y teulu waddolion a rhoddion hael, a thrwy eu hymroddiad i addysg, diwylliant a budd cymdeithasol bu modd i’r Brifysgol ddatblygu adrannau, mentrau a disgyblaethau.

Derbyniwyd rhodd sylweddol arall oddi wrth Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr ar ôl ymgyrch codi arian i nodi Jiwbilî’r Coleg a oedd yn yr arfaeth ym 1922. A hithau wedi codi mwy na £5,000 (*tua £218,000), cyhoeddodd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr ym mis Medi 1921 ei bod am brynu a chyflenwi’r Ystafelloedd Ymgynnull yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, er cof am Sylfaenwyr y Coleg a’r myfyrwyr a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Teimlai pob un o’r cyfranwyr hyn awydd cryf i roi i’n prifysgol, a thrwy hynny gyfoethogi ei threftadaeth i bawb sydd am astudio yma. Mae’n stori hir iawn, a bydded iddi barhau er budd cenhedlaeth newydd o alumni!

*cyfrifwyd gan ddefnyddio Cyfrifiannell Chwyddiant ar-lein Banc Lloegr hyd at 2014.

Dr Susan Davies