Straeon O Aberystwyth

Yr Hen Goleg; Coleg Newidiol

Dec Vozza

Yn y dyddiau ers i’r syniad amdano fel mudiad egino yn 1852, ac i’r  drysau gael eu hagor o’r diwedd yn 1872, mae Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi brwydro ymlaen drwy helbulon o bob cyfeiriad. Dim ond ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu yr oedd gan y Brifysgol ddigon o arian i oroesi (a hyd yn oed wedyn roedd yn rhaid bod yn hunangynhaliol i raddau helaeth) a heblaw am brynu Gwesty’r  Castell, a alwyd yn ddiweddarach yn Hen Goleg, am isafbris o £10,000 yn 1867, mae’n anodd dychmygu sut y gallai fod wedi dal ati. Yn 1885 cafodd yr un Hen Goleg a oedd heb ei ddodrefnu ers iddo gael ei brynu oherwydd prinder arian ac a oedd yn ddi-do mewn mannau ac yn gartref i jac-y-dos a cholomennod, ei ddifrodi gan dân a ddinistriodd ran helaeth o ran gogleddol yr adeilad.

Mae pennod yn The College by the Sea[i] (a ailargraffwyd o’r “U.C.W Magazine” a alwyd yn The Dragon ynddiweddarach) yn disgrifio “sut y cyrhaeddodd cryn nifer o drigolion y dref ar fyrder. Gan gario bwcedi, padelli ac amryfal botiau a llestri y gellid eu defnyddio i gario dŵr roeddynt yn hanner codymu i fyny’r grisiau tro yng ngolau annelwig canwyllau, ac wedi i’r mwg glirio o’r coridor yn eu cario a’u gwagio i’r ystafell wenfflam” (Morgan tud.47). Bu pobl y dref a staff y Brifysgol yn brwydro’n ddewr yn erbyn y tân drwy’r nos a’r diwrnod canlynol. Collwyd tri dyn yn y fflamau a llosgwyd tri arall yn ddifrifol. Mae achos y tân yn dal yn anhysbys, ond mae’r bennod yn The College by the Sea yn creu darlun eithaf credadwy o  “fatsien heb ei diffodd yn cael ei thaflu i fasged sbwriel ac yn disgyn ar bapur brown neu ryw ddeunydd arall cynydyn i losgi ac yn mudlosgi am rai oriau ac yna’n troi’n dân go iawn” (Morgan tud.47).

Yn dilyn y drychineb, er gwaethaf  yr ymdeimlad o golled ar ôl y dynion a fu farw a’r adeilad hoff ei hun, brwydrodd y Brifysgol ymlaen: “Ni ddigalonwyd y rhai oedd yn arwain pethau gan drychineb y tân. Yr union ddiwrnod wedyn roedd sôn am ailgodi’r Coleg” (Morgan tud.40).

Daeth distrywio’r rhan helaethaf o’r Hen Goleg yn fendith gudd i raddau. Ar ôl y drychineb cynyddodd y Llywodraeth ei grant i’r Brifysgol i £4,000 gan ei gwneud yn gyfartal â Bangor a Chaerdydd. Galluogodd hefyd i’r adeilad gael ei newid wrth ei ailgodi yn  adeilad mwy addas i’w ddiben a phan gwblhawyd Bloc Canolog newydd yn 1898 roedd yr Hen Goleg yn swyddogol gyflawn. Roedd y coleg ar ei newydd wedd, ac yn parhau i fod yn gamp bensaerniol hynod, erbyn hyn yn gwbl barod ar gyfer gwaith y Brifysgol, ac roedd ganddo hyd yn oed laethdy yn y seler lle byddai myfyrwyr yn dysgu’r “gelfyddyd ddefnyddiol o wneud menyn” (Morgan tud.43).

Erbyn hyn, gyda’r rhan fwyaf o ddarlithoedd y Brifysgol yn cael eu traddodi ar gampws Penglais, mae cynlluniau ar y gweill unwaith eto i ailstrwythuro’r Hen Goleg yn rhywbeth a fydd o amgenach deunydd i’r gymuned.

 


[i] Morgan, Iwan, The College by the Sea, (Aberystwyth: Cyngor Cynrychiadol y Myfyrwyr mewn cydweithrediad â Chyngor y Coleg) 1928

 

  

The Dragon; Erthyglau Golygyddol Aberystwyth yn ystod y Rhyfel Mawr

Dec Vozza

Yn 1914 yn Aberystwyth, fel mewn Prifysgolion eraill ledled y wlad, galwyd ar ddynion i gyfnewid eu hysgrifbinau am reifflau Lee-Enfield a hwylio i ymladd yn y Rhyfel Mawr.  

Yn 2013, lansiwyd archif yn  http://cymru1914.org yn cynnwys arteffactau llenyddol Cymraeg digidol o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, i gyd-fynd â chanmlwyddiant dechrau’r rhyfel. O fewn yr archifau hyn ceir casgliad o rifynnau The Dragon, cylchgrawn myfyrwyr sydd bellachwedidarfod amdano. Mae’r rhifynnau hyn, a’r erthyglau golygyddol yn arbennig, yn creu darlun diddorol a llawn gwybodaeth o’r ffordd yr oedd y myfyrwyr hyn a oedd i ffwrdd ar faes y gad neu yn Aberystwyth yn ymdopi â’r Rhyfel.

Yn rhifyn Tachwedd 1914, mae’r golygydd (neu’r golygyddion; ymddengys bod pwyllgor golygyddol gyda gŵr o’r enw J.W. Haime yn gadeirydd arno ar gael yn 1914) yn ymdrechu i annog ac i galonogi’r darllenwyr: 

“Er hynny teimlwn ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i gynnal dewrder siriol ac i beidio â bod yn brin o’r afiaith a’r brwydfrydedd sydd wrth wraidd ein bywyd colegol. Er bod ein ‘tasg fawr o hapusrwydd’ braidd yn galetach na’r hyn sy’n arferol rhaid i ni ddal ati’n ddibetrus ac ymdrechu i’w chyflawni hyd yn oed yn fwy egniol nag mewn amseroedd arferol.”

Ni allwn ond tybio mai’r ‘dasg fawr o hapusrwydd’ yw addysg, ac mae ymdrechion y golygydd i ysbrydoli’r cais amdano i’w hedmygu. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yn rhifyn Chwefror 1915, mae’r erthygl olygyddol ychydig yn fwy pruddaidd ei naws:  

“Mae’r rhai ohonom sy’n weddill wedi ceisio cael pethau i ddigwydd yn y ffordd arferol, a hynny gyda pheth llwyddiant. Ond pan mae’r strydoedd a’r caeau a’r Coleg ei hun yn llawn caci, ac mai anaml y gwelir gŵn academaidd, a phan mae goleuadau’r Promenâd wedi eu tywyllu, rydyn ni’n gwybod na fydd pethau yn union fel yr oeddynt tra pery’s rhyfel.”

Mae’r ddelwedd hon o’r promenâd yn llawn cysgodion yn un sobreiddiol braidd ac yn gyferbyniad llwyr â rhodfa’r môr ar ei newydd wedd rydyn ni’n gyfarwydd â hi yn llawn goleuni bob awr  o’r dydd a’r nos.

Mewn man arall, yn rhifyn Rhagfyr 1914, ceir erthygl yn dwyn y teitl “O Flaen y Gad”.  Dyfyniad yw’r canlynol o lythyr un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, Lieut. C. O. Davies, a oedd wedi ei gynnwys yn yr erthygl:

“Mae ein dynion wedi cael amser ofnadwy yn ddiweddar, ond maent wedi dal ati yn dda iawn. Rydyn ni i gyd wedi gorfod byw’n galed dros ben ac fe ryfeddech yn arw pe baech yn ein gweld ni i gyd nawr. Rydyn ni’n gorfod cysgu ble bynnag y gallwn – ym mhob mathau o le. Rydyn ni’n byw ar ddognau yr un fath â’r dynion  – corn biff, bisgedi, te, jam a chaws yw ein deiet ar gyfer pob pryd. Beth fydden ni’n ei roi am ginio Seisnig da! Wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw waith caled hyd yma, felly does gennyn ni ddim lle i gwyno.”  

Mae’n ymddangos fel pe bai ein cynfyfyrwyr yn y ffosydd, yn y dyddiau cynharaf, yn gallu ymdopi â’u hamgylchiadau. Roedd ymdopi yn fater o ddal ati a chellwair ynglŷn â’r sefyllfa mewn ffordd stoicaidd Brydeinig. Wrth i’r rhyfel fynd rhagddi, fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod hyn yn newid.

Mewn adran yn rhifyn Chwefror 1916 o dan y teitl “Athroniaeth y Ffosydd” rhoir sylw i lythyr oddi wrth “Old Aberystwythian” dienw. Er y ceir cadarnhad ar y dechrau nad yw pethau yn rhy ddrwg, mae’r milwr yn bwrw ymlaen i egluro’r angen am wytnwch a phan i’w athroniaeth ef droi’n ffataliaeth yn y diwedd:

“Allan yma mae gan ddyn ddau ddewis: datblygu stoiciaeth ymarferol neu chwalfa nerfol.” Ac yn nes ymlaen: “Rwy’n gweld mai noddfa’r milwr allan yma yw ffataliaeth, ac yn aml mae’r ffatalydd yn rhyfelwr hynod o gryf.”

Mae’r dyfyniadau hyn yn rhoi i ni ddirnadaeth sicr o’r ffordd yn yr oedd myfyrwyr Aberystwyth yn ymndopi â’r byd anodd roedden nhw wedi eu hyrddio iddo. Mae’n ymddangos yn drueni nad yw The Dragon yn bodoli mwyach, byddai wedi bod yn ddiddorol gweld os byddai golygydd modern yn gallu ysgrifennu erthyglau golygyddol mor ddengar gyda’r fath bwyslais ar hybu corff y myfyrwyr.  

Pan ddaeth y rhyfel i ben, roedd yr erthygl olygyddol nesaf (Tachwedd 1918) yn rhoi teyrnged addas i’r rhai a gollodd eu bywydau:

“Dioddefodd y Coleg yn drwm iawn oddi wrth y rhyfel: ymunodd nifer fawr o’n dynion â’r Lluoedd Arfog, a chollwyd cryn dipyn ohonynt.  Mae’r cof am eu dewrder a’u hunanaberth yn drysor a anwylir gennym am byth.”  

 

Rhannu Eich Story