Ymuno â Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr
Wrth ymuno â Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr byddwch yn parhau â thraddodiad a gychwynnodd yn 1892, gan ddod yn rhan o gymdeithas sy’n un o’r rhai hynaf o’i bath yn y Deurnas Unedig. Mater syml yw dod yn aelod am oes: llenwch y ffurflen aelodaeth a’i hanfon, gyda siec o £20, at Louise Perkins Ysgrifenyddes Anrhydeddus, Prifysgol, Aberystwyth, Adeilad Yr Arglwydd Milford, Aberystwyth SY23 3EB.
Mae aelodaeth yn agored i holl gyn-fyfyrwyr, staff presennol a blaenorol Prifysgol Aberystwyth (neu CPC Aberystwyth, PC Aberystwyth, Coleg Llyfrgellwyr Cymru a Choleg Amaethyddol Cymru). Gall gwŷr/gwragedd yr aelodau, os nad ydynt eu hunain yn gyn-fyfyrwyr, ymuno â’r Gymdeithas fel Aelodau Cysylltiol a mwynhau pob braint sy’n gysylltiedig ag ymaelodi ac eithrio pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac ethol cynrychiolwyr.
Cylchgrawn Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yw The Annual ac mae’n cael ei anfon at yr holl aelodau bob flwyddyn. Ynddo ceir gwybodaeth a ffurflenni archebu ar gyfer Aduniad blynyddol y Gymdeithas.
Cliciwch yma i argraffu ffurflen aelodaeth.