Cynigion Arbennig i Alumni Aber

O bryd i’w gilydd mae modd i ni drefnu cynigion arbennig i gyn-fyfyrwyr Aber gydag amryw o gyflenwyr.  Ceir manylion am y cynigion presennol isod, ynghyd â dolenni i’w gwefannau lle bo’n briodol.

Er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dilysrwydd cynigion o’r fath, nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am  gywirdeb y wybodaeth a ddarperir.

BUPA

Mae Alumni Aberystwyth, eu dibynyddion, a staff y Brifysgol yn gallu cael 20%* o ostyngiad oddi ar bris yswiriant meddygol preifat BUPA ‘Client Choice’ a drefnir drwy IHC.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Salim Gani ar 0845 370 6747 neu ebostiwch gani@ihc.co.uk gan roi’r cyfeirnod "Aberystwyth Alumni". Cewch weld ffeithiau allweddol am ‘Client Choice’ drwy glicio yma.

*Mae telerau ac amodau ar gael ar gais, ac maent yn amodol ar feini prawf penodol, bydd pob aelod yn ddarostyngedig i gael Cloriannu Meddygol Llawn. Mae IHC a BUPA yn cael eu hawdurdodi a’u rheoli gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

_______________________________________

 Grŵp Gwestai Intercontinental

Manteisiwch ar ostyngiadau gwych gyda’r GGI: o leiaf 25% o ostyngiad ar benwythnosau, hyd at 35% o ostyngiad ar nos Wener a nos Sul. Mae’r cynnig ar gael mewn gwestai Intercontinental, Crowne Plaza, Holiday Inn ac Express by Holiday Inn ledled y DU sy’n rhan o’r cynllun tan 31 Rhagfyr 2010 - ewch amdani a mwynhewch benwythnos i ffwrdd!

I fanteisio ar y cynnig hwn yn ogystal â nifer o gynigion eraill ewch i www.ihg.com/alumni neu ffoniwch 0871 423 4874 gan ddyfynnu ‘Exclusive’.

_______________________________________

MBNA - Cerdyn Credyd Prifysgol Aberystwyth

A hoffech chi gael cerdyn credyd Aber gyda llun o’r Hen Goleg ar y blaen?  Os hoffech wneud cais, ffoniwch 0800 028 2440 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 31CVWVN7. 

_______________________________________