Charles Hartwell

Graddiodd Charles Hartwell o Aber yn 1995 gyda BSc Cyfrifeg a Chyllid gydag Economeg. Bu’n gweithio mewn nifer o sefydliadau cyn ymgymryd â’i swydd bresennol gydag Eville & Jones yn eu prif swyddfa yn Leeds yn darparu cyfoeth o brofiad.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Gan fy mod yn dod o Ynys Wyth, roedd bod ar lan y môr yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol ac un o’r atgofion gorau sydd gen i o Aber yw’r ysbryd cymunedol. Gan fod Aberystwyth yn lle bach, y brifysgol yw calon ac enaid y dref. O ganlyniad roedd yno awyrgylch gwych a gwnes i ffrindiau oes tra’r oeddwn i yno.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Rwyf i wedi cael gyrfa amrywiol hyd yma ac wedi gweithio ar draws nifer o sectorau gwahanol, gan gynnwys chwaraeon proffesiynol, y gyfraith, cosmetigau a lletygarwch. Fy nghefndir ariannol sydd wedi fy ngalluogi i drosglwyddo fy sgiliau ar draws sectorau, rhywbeth mae fy ngradd yn sicr wedi ei helpu.

Bellach fi yw Prif Swyddog Gweithredol Eville & Jones, darparwr Rheolyddion Milfeddygol Swyddogol mwyaf Ewrop. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, a bod y safonau uchaf o les anifeiliaid yn y gadwyn fwyd yn cael eu parchu. Fel Prif Swyddog Gweithredol, fy rôl ar hyn o bryd yw llunio a chyflawni strategaeth twf y cwmni wrth i ni edrych ar fynd i farchnadoedd daearyddol newydd, gan adeiladu ar ein llwyddiant yn y DU, Sbaen ac Awstralia, ond hefyd fanteisio ar brofiadau ein pobl i ehangu’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig. Ymunais ag Eville & Jones o Stowe Family Law, lle’r arweiniais i’r busnes drwy gyfnod o dwf eithriadol oedd yn cynnwys mynd allan i fuddsoddwyr Ecwiti Preifat.

Ymhellach, ers graddio o Brifysgol Aberystwyth, rwyf i wedi dod yn aelod o Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ac rwy’n gyn lywydd Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Gorllewin Swydd Efrog. Fy swydd gyntaf oedd gyda’r cwmni mordeithiau Cunard, cyn ymuno ag Estée Lauder yn Uwch Gyfrifydd Brand.  Mewn cyfnod o dwf uchel, canolbwyntiais ar gyfanwerthu ac adwerthu ar gyfer brand Aveda’r cwmni. Mwynheais i’r rôl hon yn fawr a’i chael yn heriol a hefyd yn ddiddorol, gan ddatblygu diddordeb cryf yn y cynhyrchion.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Mwynhewch eich cyfnod yn Aber oherwydd dyddiau prifysgol fydd amser gorau eich bywyd.

Gosododd fy nghwrs yn Aber y seiliau ar gyfer popeth rwyf i wedi’i wneud ers graddio ac rwy’n cynghori myfyrwyr i gydio yn y cyfleoedd mae Aber yn eu cynnig a gwneud y gorau ohoni.