David Pearson

Graddiodd David o Aber yn 1987 gyda BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol. Ar ôl gyrfa yn y lluoedd arfog, mae bellach yn Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol mewn Academi Filwrol yn UDA.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Roedd y gyfadran yn Aberystwyth yn wych o ran eu gwybodaeth a’u henw da. Roedd pob un ohonyn nhw’n gefnogol ac yn anogol - ac mae llawer yn dal i fod yno - sydd ei hun yn dyst i’w hymrwymiad personol i’r sefydliad. O blith y darlithwyr, roedd Dr Ritchie Ovendale yn ddylanwad arbennig o gryf ac yn ystod gwasanaeth milwrol yn y Dwyrain Canol, byddwn i’n aml yn meddwl yn ôl am ei gwrs, 'The Origins of the Arab-Israeli Wars'. Ni fydd byth yn gwybod, ond mae arnaf i ddyled enfawr o ddiolch iddo am ddatblygu fy nghywreinrwydd deallusol. Dylanwadau cryf eraill oedd Ken Booth, John Baylis, a Colin McInnes i enwi rhai yn unig. Rhaid pwysleisio bod yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gyfadran o safon fyd-eang bryd hynny a hyd heddiw. Wrth gwrs, mae’n anodd curo prydferthwch a lleoliad Aberystwyth yng nghanol Bae Ceredigion ac rwy’n meddwl am y lle’n ddyddiol, er gwaethaf byw yn un o’r taleithiau mwyaf gwledig yn yr Undeb gydag eirth, ceirw, elciaid, mynyddoedd a llynnoedd yn fy amgylchynu. Mae Aber yn lleoliad gwych i fod yn fyfyriwr unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Ar ôl gadael Aberystwyth, es i Academi Frenhinol y Lluoedd Arfog yn Sandhurst a dod yn swyddog troedfilwyr ym Mataliwn Cyntaf Catrawd Worcestershire and Sherwood Foresters. Gwasanaethais am 12 mlynedd (dros y lle i gyd) ac yna rhoddais y gorau i fy nghomisiwn a dychwelyd i’r brifysgol - gan gwblhau MPhil ym Mhrifysgol Aberdeen (yn ymchwilio i hanes athrawiaeth Gwrthchwyldroadaeth Brydeinig) ac ar yr un pryd TAR mewn Hanes a TG yn yr hyn oedd ar y pryd yn Goleg Cheltenham and Gloucester. Yn dilyn cwblhau’r cyrsiau hyn yn llwyddiannus, symudais i Unol Daleithiau’r Amerig, gan ddod yn Ddinesydd Americanaidd ac ymuno â chyfadran ysgol annibynnol - Kents Hill - lle’r wyf i ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel Pennaeth Cynorthwyol, ac yn dal i ddysgu Hanes Ewrop a’r UD ar leoliad uwch - gyda phwyslais cryf ar gysylltiadau a threfniadaeth ryngwladol o ganlyniad i fy ngradd yn Aberystwyth. Yn y bôn, agorodd fy ngradd o Aberystwyth ddrws gyrfaol i mi yn y lluoedd arfog lle dysgais ddisgyblaeth bersonol a phenderfyniad i dderbyn unrhyw her - hyd yn oed symud i wlad newydd heb swydd na chartref - a gwneud y gorau ohoni.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Peidiwch â gohirio pethau a gwnewch i bob diwrnod gyfrif. Peidiwch byth ag ildio a defnyddiwch y gyfadran er mantais i chi. Yn y pen draw, bydd y blynyddoedd a dreuliwch ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith yr hapusaf a’r mwyaf boddhaus yn eich bywyd.