David Williams

Beth ydych chin ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai’r elfen gymdeithasol sy’n dod i’r cof gyntaf! Gwneud ffrindiau ardderchog yr wyf yn dal i fod mewn cysylltiad â nhw; yfed coffi gyda’r hwyr yn Neuadd Padarn a rhoi'r byd yn ei le; mynd o gwmpas tafarndai Banks, brwydrau dŵr; cerdded ar hyd y prom a chicio'r bar, ciniawau neuadd a nosweithiau cymdeithasol; dawnsfeydd yn y Neuadd Fawr, Wythnos Rag, a phenwythnosau gyda’r Clwb Mynydda yn Eryri. O ran yr ochr academaidd, mae gen i atgofion melys o rai darlithwyr a thiwtoriaid ardderchog. Pobl fel yr Athro Harold Carter, a Dr Roy Lewis a Dr Bob Dodgshon, a oedd yn dysgu Daearyddiaeth Ddynol. Yn ogystal â bod yn athrawon gwych, roeddynt yn bobl hyfryd hefyd.

Beth ydych chin ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich gradd o Aberystwyth?

Ar ôl dysgu am nifer o flynyddoedd symudais i weithio ym maes llywodraeth leol, yn gyntaf fel Cyfarwyddwr Addysg yng Nghaerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf ac yna, yn ddiweddarach, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant ar gyfer Cyngor Sir Durham. Yn rhinwedd y swydd hon roeddwn yn gyfrifol am 290 o ysgolion, y gwasanaeth ieuenctid, y gwasanaethau troseddau ieuenctid; a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant, megis y gwasanaethau amddiffyn plant a’r gwasanaethau maethu a mabwysiadu. Roedd yn waith aruthrol. Roedd fy nghyllideb flynyddol ymhell dros £400 miliwn ac roedd gan fy ngwasanaeth dros 10,000 o staff, o gynnwys y rhai a oedd yn gweithio mewn ysgolion hefyd. Yn ddiweddar, bu modd i mi gymryd ymddeoliad cynnar oherwydd y toriadau mewn gwariant, ond rwyf nawr yn treulio sawl diwrnod bob mis yn gwneud gwaith ymgynghorol ar gyfer cynghorau lleol a llywodraethau Cymru a Lloegr, yn gweithio i gefnogi awdurdodau lleol sy’n cael anawsterau â'u gwasanaethau addysg neu eu gwasanaethau plant. Fy ngradd o Aber wnaeth hyn oll yn bosibl.

Pa gyngor fyddech chin ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Gwnewch y gorau o bob munud o’ch amser yn Aber. Mae’n ystrydeb ofnadwy, ond gweithiwch yn galed a chwaraewch yn galed. Yn y dyddiau sydd ohoni mae angen gradd dda i lwyddo fel rheol, ond mae bron yn sicr na chewch fyth eto gymaint o ryddid ac amser hamdden ag sydd gennych ar hyn o bryd. Defnyddiwch e!