Dominic Bacon

 

Graddiodd Dominic o Aber yn 1986 gyda LLM yn y Gyfraith ac ef yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni ymgynghori Squaring the Circle. Dominic hefyd yw Cwnsel Cyffredinol Grŵp Ariannol Britannia Cyf.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Yr hyn rwy’n ei gofio fwyaf am Aberystwyth yw fod yr addysg yn holistaidd ac nid yn academaidd yn unig. Roedd hyn o fantais i mi pan euthum i Goleg y Gyfraith (ac wedi hynny) oherwydd fe ddaeth yn glir fod yn rhaid deall y cyd-destun ac nid yr egwyddorion yn unig er mwyn bod yn gyfreithiwr da 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Rwy’n Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ymgynghori Cyfreithiol, Cydymffurfiaeth a Risg – Squaring the Circle a hefyd yn Gwnsler Cyffredinol Grŵp Ariannol Britannia Cyf. Cyn hynny, roeddwn yn gwnsler cyffredinol mewn gwahanol gwmnïau gwasanaethau ariannol yn y DU a thramor, yn cynnwys cyfarwyddiaeth banc yn Ne America – ac un o’r 100 Cyfreithiwr Gorau (The Lawyer’s Hot 100). Brif 100 Cyfreithwyr. Fe wnaeth Aberystwyth fy helpu oherwydd, fel y nodais uchod, roedd y ffaith fy mod wedi dysgu i weld y gyfraith o safbwynt technegol a busnes, yn golygu fy mod wedi penderfynu’n eitha sydyn mai o’r tu mewn yr oeddwn am i fy ngyrfa ddatblygu – yn bennaf oherwydd bod hynny’n golygu y byddech yn agosach at y broses o wneud penderfyniadau a oedd yn golygu y gallech gymryd penderfyniadau, os oeddech yn dymuno (ac mi roeddwn i!).

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Canolbwyntiwch ar agweddau technegol eich hyfforddiant cyfreithiol (yn Aberystwyth, Coleg y Gyfraith ac wrth hyfforddi) oherwydd dyna fydd sail eich gyrfa wrth iddi fynd rhagddi. Ond cofiwch mai’r ffordd y byddwch yn defnyddio’r gwahanol egwyddorion/cysyniadau cyfreithiol rydych wrthi’n eu dysgu ar hyn o bryd fydd yn pennu eich gwerth fel cyfreithiwr yn y dyfodol – a pha mor anhepgor fyddwch chi i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd.