Emily Dobson

Graddiodd Emily o Aber yn 2002 gydag MA mewn Celfyddyd Gain, ac mae hi bellach yn athrawes gelf mewn ysgol uwchradd yn UDA.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber? 

Dwi’n cofio cynhesrwydd Aber (y bobl a’r dref), harddwch y dref a gweithio’n galed yn y stiwdio gelf.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae gradd Aberystwyth wedi helpu? 

Rwy’n athrawes gelf mewn ysgol uwchradd ac mae gradd meistr wedi rhoi gwybodaeth ddyfnach i mi o’r pwnc, yn enwedig gan bod y rhan fwyaf o athrawon ag ail radd mewn Addysg yn hytrach na mewn disgyblaeth academaidd arall.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs nawr?

Cymerwch ychydig o ddosbarthiadau ychwanegol ar wahân i gelf mewn busnes neu addysg – rhywbeth all eich helpu chi i fod yn fwy cyflogadwy yn y maes celf.