Jamie Chancellor

Graddiodd Jamie Chancellor gyda BA yn y Gyfraith gyda Chyfrifyddu a Chyllid o Brifysgol Aberystwyth yn 2006. Erbyn hyn mae’n Rheolwr Gwerthiant ar gyfer Datrysiadau Gweithdy yn Euro Car Parts, dosbarthwr rhannau ceir mwyaf y DU.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber? 

Er bod gen i ymdeimlad cryf o gyffro cyn mynd i Aberystwyth, roeddwn i hefyd yn nerfus â’r syniad o symud i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf. Fodd bynnag tawelodd y teimladau hynny’n fuan unwaith i fi weld lleoliad delfrydol Aberystwyth a’r llety croesawgar – roedd yn teimlo fel ail gartref ar unwaith.


Gyda llawer o gymdeithasau a’r bywyd nos na welwyd ei debyg, roedd gen i fywyd cymdeithasol gwych yn Aberystwyth. Roeddwn i’n rhan o’r tîm Pêl-droed Americanaidd, rhywbeth nad oeddwn i wedi ei wneud cyn dod i’r brifysgol. Hefyd, roedd y nifer o fariau, tafarnau a chlybiau’n agoriad llygad - peidiwch â chael eich twyllo fod Aberystwyth yn ddim mwy na ‘thref fach Gymreig’ oherwydd bydd rhywbeth i’w wneud drwy’r amser. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa a sut mae eich gradd Aberystwyth wedi helpu?

Ar hyn o bryd rwy’n Rheolwr Gwerthiant ar gyfer Datrysiadau Gweithdy yn Euro Car Parts. Mae’r rôl yn cynnwys rheoli un ar ddeg aelod o staff yn uniongyrchol, a thri ar ddeg o staff yn anuniongyrchol. Mae fy nyletswyddau dyddiol yn cynnwys cymell y tîm, adroddiadau, datblygu niferoedd gwerthiant, cynllunio prosiectau ar gyfer ymgyrchoedd y dyfodol ar gyfer cynhyrchion penodol a chwrdd â chwsmeriaid a chyflenwyr. Mae pob diwrnod yn amrywio, ac rwyf i wrth fy modd gan ei fod yn cynnal fy nghymhelliant.


Anogodd astudio yn Aberystwyth fi i fod yn fwy annibynnol; o orfod rheoli fy amser yn effeithiol i gwblhau’r amrywiol dasgau a gwaith cwrs, i fod yn fwy hunan-gymhellol i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud i’r safon uchaf y gallwn i.


Mae’r hyder a’r annibyniaeth a fagwyd ynof i yn Aberystwyth wedi rhoi’r sgiliau i fi ymdrin yn effeithiol â’r holl sefyllfaoedd gwahanol sy’n codi yn y gweithle.

Pa gyngor fyddai gennych chi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Dyw gradd ddim yn golygu dod yn arbenigwr mewn un maes – mae’n golygu dysgu’r sgiliau i lwyddo mewn unrhyw rôl y gallech ddod ar ei thraws.