Khaled Ibrahim

Graddiodd Khaled o Aber yn 2013 gyda MScEcon mewn Rheoli a Marchnata.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Pa mor hawdd yw bywyd yn Aber. Er enghraifft, roedd yn hawdd dod o hyd i lyfr yn y llyfrgell, dod o hyd i’r deunyddiau roedd eu hangen arnaf ar-lein gyda "Blackboard", trafod gwaith gyda ffrindiau a chydweithwyr - mae gan Brifysgol Aberystwyth system ragorol i hwyluso astudio a hefyd agweddau eraill bywyd; chwaraeon, astudio, llety a hwyl! Roedd yn hyfryd mynd am dro gyda ffrindiau yn Aberystwyth ar lan y môr. Tref mor braf, gyda phrifysgol uchel ei pharch, pobl gyfeillgar, ac amgylchedd cadarnhaol.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Drwy fy ngradd yn Aberystwyth cefais ddealltwriaeth ddofn o reoli. Caiff gradd o Aberystwyth ei chydnabod yn rhyngwladol, ac rwyf i wedi gweithio yn yr Aifft, Sbaen, Mecsico a Singapore. Nawr mae fy mhrofiad yn cwmpasu rheoli addysg a hyfforddiant.

Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu a gwella’n barhaus yn fy swydd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Mae gennych chi gyfle gwych i ddysgu gwir wybodaeth a sgiliau gwerthfawr gyda staff academaidd proffesiynol. Gwnewch y gorau o bopeth rydych chi’n ei wneud yno. Mae rheoli a marchnata yn galw am "wybodaeth barhaus”, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu’r pynciau gyda’i gilydd a chadwch yn gyfredol drwy ddarllen llawer. Cyhyd â’ch bod yn darllen ac yn deall, byddwch yn gwneud yn wych ac yn cael graddau da.