Louise Rickard

Graddiodd Louise Rickard o Aber gyda BSc mewn Bioleg yn 1992 a PhD mewn Bioleg Forol yn 1996. Hi yw’r chwaraewr sydd â’r nifer mwyaf o gapiau erioed yn hanes rygbi Menywod, gan ymddangos 112 o weithiau yn rhan o Garfan Cymru.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae campws y brifysgol ar safle hyfryd ger y môr ac yn agos i dirwedd fynyddig odidog. Rwy’n cofio dyddiau hapus ar y traeth a cherdded a beicio mynydd yng nghefn gwlad. Mae Aber yn gymuned groesawgar ac mae gennyf sawl cyfeillgarwch o hyd ers fy nyddiau yn y brifysgol. Astudiais Sŵoleg ar gyfer fy ngradd BSc Anrhydedd gan fwynhau amrywiaeth y cwrs a’i hyblygrwydd. Roeddwn i’n ddiolchgar i gael y cyfle i dreulio fy ail flwyddyn yn UC Irvine. Fy mhrofiad yno a sbardunodd fy angerdd dros fioleg forol ac es i ymlaen i’w astudio ar gyfer fy noethuriaeth. Cefais fy nghyflwyno i rygbi yn Aberystwyth ac mae hyn wedi arwain at yrfa ryngwladol hir (enillais 112 cap dros Gymru). Mae rygbi wedi fy ngalluogi i deithio’n eang a chyfarfod â llawer o bobl ddiddorol.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Ar hyn o bryd fi yw Pennaeth Bioleg Ysgol Woodbridge yn Suffolk. Rwyf i wedi bod yn dysgu bioleg a chwaraeon ers gorffen fy nghwrs TAR ym Mhrifysgol Loughborough. Rwy’n dysgu dosbarthiadau arholiadau yn unig, gyda’r mwyafrif yn Safon Uwch, sy’n cynnig cyfle i mi baratoi myfyrwyr ar gyfer y cam nesaf mewn bywyd ac yn bennaf ar gyfer mynd i’r brifysgol. Mae dysgu hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi ymwneud â myfyrwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth drwy hyfforddi a dyfarnu unigolion a chwaraeon tîm gwahanol a dod yn swyddog yn y Llu Cadetiaid Cyfunol.  Mae dyfnder y wybodaeth a gefais drwy fy nghwrs gradd wedi rhoi hyder a sgiliau i mi rannu fy ngwybodaeth ac annog myfyrwyr i fod yn frwdfrydig am y pwnc.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

I fyfyrwyr sy’n astudio Sŵoleg byddwn yn argymell eu bod yn archwilio ac yn manteisio ar bob cyfle a gynigir iddyn nhw. Rwy’n awgrymu eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau’r radd uchaf bosibl fydd yn talu ar ei ganfed iddyn nhw ym mha yrfa bynnag y byddan nhw’n ei dilyn. Hefyd dylen nhw fwynhau’r holl amwynderau, clybiau a chymdeithasau eraill sydd ar gael yn y brifysgol er mwyn iddyn nhw orffen eu haddysg yn unigolion cyflawn.