Nicholas Eldred

Graddiodd Nicholas Eldred o Aber yn 1984 gyda LLB. Mae nawr yn Gwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y BBC.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae gen i atgofion pleserus iawn o fy nghyfnod yn Aber. Roeddwn i yno rhwng 1981 a 1984 yn astudio’r gyfraith ac roedd yn brofiad gwych. Y peth cyntaf oedd y daith i gyrraedd yno: ryw 5 awr o ble’r oeddwn i’n byw yn y de ddwyrain gyda’r rhan olaf ar y trn o’r Amwythig yn teimlo’n ddiddiwedd. Roedd hon yn brifysgol lle’r oedd hi’n bosibl cadw’n ffit heb fynd i’r gym: cerdded yn ddiddiwedd i fyny ac i lawr Rhiw Penglais ac wrth gwrs yn y wlad o gwmpas ar y penwythnosau. Pan oeddwn i yno roedd tua 3000 o fyfyrwyr yn y brifysgol (ychydig yn fwy erbyn hyn...) ac roedd ymdeimlad cryf o gampws clos. Mae ambell i gyfeillgarwch a ddechreuodd yno wedi para’r 25 mlynedd ers hynny. Rwy’n cofio’r machlud godidog dros y mr yn yr haf, a’r dyddiau oer, glawog ar adegau eraill yn y flwyddyn. Un Nadolig fe gefais i drên arbennig i Euston a aeth i drafferthion mewn eira trwm. Yn y pen draw cyrhaeddom ni orsaf Paddington 13 awr yn ddiweddarach. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich gradd o Aberystwyth?

Mae gennyf yrfa ddiddorol hyd yn hyn. Cymhwysais yn gyfreithiwr ar ôl imi raddio yn y gyfraith ac erbyn hyn rwyf i’n Gwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Grŵp Christie’s, cwmni sydd fwyaf adnabyddus fel tŷ ocsiwn. Yn y swydd hon, rwy’n rhoi cyngor ar lawer o agweddau diddorol ar fusnes Christie’s, ym Mhrydain a thramor. Cyn hynny fe fûm i’n gweithio mewn swydd debyg yn y BBC am ddeng mlynedd, a chyn hynny yng nghwmni ffonau symudol, sef O2 erbyn hyn. Dechreuais fy ngyrfa fel cyfreithiwr corfforaethol gan weithio am ychydig o flynyddoedd mewn cwmni cyfreithiol yn ninas Llundain. Yn ogystal â’r ffaith bod y cwrs yn y gyfraith a astudiais yn Aber yn un eang iawn, cafodd ei ddysgu mewn ffordd a wnaeth imi feddwl am faterion a herio rhagdybiaethau, rhywbeth sy’n werthfawr iawn i gyfreithiwr sy’n gweithio mewn unrhyw faes.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Byddwn ni’n cofleidio’r holl gyfle breichiau agored. Mae rhai myfyrwyr yn cymdeithasu ychydig yn ormodol, ac eraill yn treulio llawer gormod o amser yn y llyfrgell! Rwyf i’n credu bod modd taro cydbwysedd hapus. Yn sicr mae’n bwysig gweithio’n galed, ond cymerwch amser i fwynhau popeth sydd gan Aber i’w gynnig.