Roger Donbavand

Ymgynghorydd llawrydd nid-er-elw a chyn Reolwr Cyffredinol, Commercial & Quality Assurance, Mission Australia.

Mae gan Roger Donbavand dros 30 mlynedd o brofiad ym maes ymgynghori ymchwil strategol ac o 2011 tan 2016 bu’n byw ac yn gweithio yn Sydney, Awstralia. Cyn hyn treuliodd un mlynedd ar ddeg yn gyfarwyddwr bwrdd BDRC Continental, cwmni ymchwil yn y farchnad annibynnol fwyaf yn y DU.

Dechreuodd Roger ei yrfa yn nhŷ buddsoddi Flemings yn Ninas Llundain ac ar ôl hynny bu’n gweithio mewn cwmnïau ymgynghori ac asiantau ymchwil blaenllaw. Mae ganddo amrywiaeth eang o brofiad yn y sectorau diwydiannol yn enwedig ariannol, telathrebu symudol, ond mae ei yrfa hefyd yn cynnwys fmcg, llywodraeth, elusennau a diwydiannau gwasanaeth eraill.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?
Dwi’n meddwl mai’r cyfeillgarwch a wnes i – mae’r pump ohonom yn ffrindiau o hyd ers yr 1970au ac yn cael aduniadau yn Aber. Roedd pawb gan gynnwys y staff yn gymwynasgar iawn. Hefyd y tywydd – gall yn bendant fod yn ffres yn y gaeaf OND chefais erioed unrhyw salwch. Wrth astudio daearyddiaeth rydych chi wedi eich amgylchynu gan olygfeydd godidog sy’n ysbrydoli.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich gradd Aberystwyth wedi eich helpu?
Wedi treulio deng mlynedd ar hugain ym maes marchnata a datblygu strategol cwmnïau yn y DU, dwi nawr yn defnyddio’r sgiliau hyn yn y sector nid-er-elw /elusen gan ei bod yn bwysig i ‘roi rhywbeth yn ôl’.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?
Gweithiwch yn galed a chwaraewch yn galed, ac fe gewch y cyfle unigryw mewn bywyd mae Aber yn ei gynnig. Roedd gennym adran ddaearyddiaeth ragorol ac mae’n adran wych nawr. Cymaint gwell i astudio daearyddiaeth yn Aber na mewn dinas fawr. Dwi’n gwybod oherwydd dwi’n dod o Manceinion!